Ailddysgu

Monday 27 April 2009

Ymweliad

Es i ymweld a Gwilym pnawn Sadwrn, tad Bethan, sydd hefyd yn gweithio yn y prifysgol agored (h.y. bod Bethan yn gweithio yma, dim Gwilym). Mae gen Gwilym fflat sydd ddim yn bell iawn o Newport lle dwi'n byw. Mae o dipyn yn fregus, ond yn ffodus mae siop ar draws y ffordd o'r fflat. R'oedd o'n dda cael sgwrs Cymraeg - ac er bod Gwilym yn deud bod o'n anghofio ei Gymraed, o fy safbwnt i, mae ei Gymraeg o'n dda iawn. Ond mae o'n gwneud i chi feddwl - be ydi'r fordd gorau o ymdopi pann ydych chi'n hen? Mae Gwilym yn colli'r annibyniaeth oedd ganddo pan oedd yn gyrru'r car.

Roedd Jim yn fy atgoffa i bod ei fam yn dweud yn aml, pan oedd hi gartref cyn rhaid iddi hi fynd i gartref henoed na'r peth gwaethaf oedd yr unigrwydd. Pan oedd hi'n iau - a cyn iddi hi gael gorddysrwch (dementia?) r'oedd unigrwydd dim yn broblem. R'oedd hi'n mynd allan i'r dref bron bob dydd, r'oedd hi'n coginio, gwylio y teledu a darllen y papurau newydd - ac yn cael digon o ymwelwyr, ond unwaith datblygodd y gorddysrwch, r oedd pobl ddim yn medru ymdopi gyda'r holl ailadroddiadau o'r brawddegau a.y.y.b. A hefyd, unwaith i'r gorddysrwch dechrau o ddifri, r'oedd hi ddim yn medru canolbwyntio ar y teledu, neu papur newydd. Mae gorddysrwch (gair newydd i fi!) yn beth ofnadwy.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home