Ailddysgu

Friday 13 March 2009

Post Ddoe-hwyl ar y tren

Es i i ddechrau weithio ar fy Nghymraeg bore ma oherwydd bod gen i taith tren hir. Dwi'n defnyddio cyfriadur back (EEPC) sydd yn ddigon ysgafn i ddim gwneud niwed i'm ysgwyddau - ond r'oedd popeth o'n i eisiau gwneud ar y "memory stick" a r'oedd y cyfriadur yn gwrthod darllen o'n iawn (wel, o gwbl, i ddwed y gwir!) "Computer says no" . Ydi o ddim yn hawdd teipio chwaith - am fod y cibod ("Keyboard"??) mor fach. Grrrr! Felly dwi'n sgwennu dipyn a hefyd mae gen i'r Cymro y phrynais yng Nghonwy. Ond dim llyfrau. Llwyth o waith, ia, ond meddwl na cyn bod y taith yn dechra yn fuan iawn yn y bore, bysa i'n gwneud dipyn o Gymraeg cyntaf.

O wel. Y cynlluniau gorau a.y.y.b. Ond aeth o'n waeth. R'oedd angen newid tren yng Nghrewe - i gael y tren Edinburgh. Ia wn i bod na gair Cymraeg ond dw i ddim yn cofio fo. Wel roedd y bord yn dweud ei fod yn ugain funud yn hwyr (i ddechrau). Doeddwn i ddim yn poeni gormod - yr oedd yr araith cyntaf ar un o'r ddeg - felly - digon o amswer. Ond, yn y diwedd, daeth y tren i fewn hanner awr yn hwyr, a wedyn daeth cyhoeddiad yn dweud bod rhaid iddo fynd drwy Caer - a bu hynny'n rhoi hanner awr pellach ar y taith. Cyrhaeddon i'n agos i Breston - a daeth cyhoeddiad bod problem gyda'r "signals" a troiodd problem bach i broblem mawr. Roedd y tren yn dwy awr yn hwyr rwan - ac oedden ni yn gorfod mynd yn ol i Wigan lle roedd bws i fynd a ni i Breston (neu Lancaster). Ond doedd na ddim bws. A neb yn medru dweud os oedd y problem wedi fficsio. Felly penerfynnais troi yn ol am gartref yn hytrech na dod allan o'r cyfarfod i ffeindio bod na ddim tren (oherwydd y problemi hefo'r signals) a wedyn gorfod mynd ar y bws; colli'r cysylltiad.......a.y.y.b. Ond, wrth sgwrs - doedd dim tren uniongyrchol i fynd yn ol chwaith! (Ie - y signals!) Felly roedd angen cerdded i'r orsedd arall yn Wigan, cael tren araf araf bach i Fanceiniog; cerdded i'r orsedd arall yn Manceiniog - a dyma lle ydwi rwan - ar y ffordd adref - wedi cael llon bol o teithio ar y tren.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home