Ailddysgu

Saturday 14 March 2009

Cwrs Undydd Cymraeg yn Llundain

Amser yma, wythnos diwethaf, r'oeddwn ar fy ffordd i Lundain, i'r cwrs undydd. Dw i wedi bod tair neu pedwair gwaith, rwan, a mae nhw'n ardderchog. Dw i wedi bod ar cwrsi penwythnos Y Fenni hefyd a mae nhw'n dda iawn hefyd - a dim yn ddrud. Yr unig peth ydi bod y Cymraeg yn y Fenni yn Gymraeg y De (y rhan mwyaf). Mae na gymysgedd yn Llundain. Tro diwethaf, yn mis Tachwedd (dwi'n meddwl!) r'oeddwn i mewn dosbarth Glenys - sy'n dod o'r Gogledd - ac r'oedd o'n dda iawn. R'oedd yn gobeithio bod mewn dosbarth Glenys eto, ond tro yma cawsom Eleri - ac r'oedd hi'n ardderchog hefyd. Wrth sgwrs, mae'n gyfle anaml (os dach chi'n byw yn Lloegr) i siarad Cymraeg trwy'r dydd. Gloywi'r Cymraeg oedd un amcan - ac yn un o'r ymarferion r'oeddwn ni'n edrych ar geiriau i ddisgrifio nodweddion personol. R'oedd llawer ohonnyn nhw yn newydd i fi - fel "amryddawn; chwilfrydig; egwyddorol; goddefgar; gwylaidd; llesg; llwfr "- a llawer mwy. Dwi am trio cofio nhw - bydd rhaid defnyddio nhw - ac efallai daw ar draws ambell un (neu mwy) mewn llyfrau. Mae o'n anodd ehangu fy ngeirfa - ond yn dod yn araf bach (dwi'n gobeithio!)

Yn anffodus, dw i ddim yn meddwl medrai mynd i'r cwrs undydd nesaf (yn Mehefin). Dw i ddim yn medru mynd i'r cwrs penwythnos nesaf yn y Fenni chwaith - mae un penwythnos nesaf (a dw i'n mynd i gynhadledd ar y dydd Sul) ac un Pasg ( a bydda i ar taith cerdded...) O wel, fydd rhaid cadw mynd gyda darllen, gwylio S4C a gwrando ar radio Cymru.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home