Ailddysgu

Wednesday 13 January 2010

Yma o Hyd...

Roedd yr eira a ddisgynodd wythnos yn ol ar y ddaear o hyd, ddoe, er, erbyn gyda'r nos, roedd o mwy gynes a roedd yr eira a rhew yn toddi. Ond heddiw daeth mwy, er ei fod yn mwy gynes eto ac erbyn diwedd y pnawn, mae'r rhan mwyaf wedi toddi.

Fel ddwedais i, roeddwn i bron allan o lyfrau Cymraeg. Dyma be sgwenais i yn fy lyfr ddoe (dwi wedi dechrau sgwennu mewn llyfr cyn rhoi y cofnod ar y blog - ges i ddim cyfle i fynd at y blog ddoe). "Hefo'r cwrs y penwythnos diwedd dim yn rhedeg oherwydd yr eira felly doedd dim cyfle i brynu llyfrau newydd. Ond ta waeth - cyfle i ddarllen y llyfrau dwi wedi osgoi hyd a hyn. Yn llyfr y ddechreuais yw "Dyddiadur America a pethau eraill" gan Densil Morgan. Prynais hwy yng Nghaernarfon ym mis Tachwedd. Edrychodd yn ddiddorol, gwr Cymraeg a oedd yn aros yn America amser yr ymosodiadau ar y Tyrau Marchnad yn 2001. Ond cefais fy siomi. Athro yn ysgol diwinyddiaeth ac astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Bangor ydi o. A felly mae rhan mawr o'r dyddiadur am bethau diwynyddol a chrefyddol. Does gen i ddim diddordeb yn y pwnciau hyn. Ond mae o hefyd yn son am ddiwidiant yr unol Daleithiau ac am hanes rhai o'r bobol Gymraeg ag aethynt yna. Fel mae'r clawdd yn deud "Er bod Densil Morgan yn hysbys fel llenor ac academydd o Gymro, fe'i ganed yn Ohio, ac yno, mewn teulu a oedd yn nodweddiadol o'r hen ddiaspara Cymraeg, y treuliodd ei flynyddoedd cynharaf"

Hyd a hyn, dwi wedi cyraedd tudalen 54 a dydi o ddim yn siwrna hawdd. Mae'r iaith brawdd yn ffurfiol ac yn lenyddol. Fel arfer, y dyddiau yma, dwi'n darllen heb geiriadur ac yn trio deall geiriau newydd o'r cyd-destun a hefyd cofnodi geiriau newydd wedyn. Ond mae gymaint o eiriau anadnabyddys (? "unkown") yn y llyfr yma, felly mab'n siwr dylwn ei weld o yn gyfle i ddysgu geiriau newydd.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home