Ailddysgu

Tuesday 3 March 2009

Llyfrau o Landudno - a Caernarfon


Aethom i aros yng Nghonwy am y penwythnos diwethaf. Un o'r pethau o'n i eisiau gwneud oedd prynu mwy o lyfrau. Mae'n anodd cael digon o lyfrau gwahanol i ddarllen - ac er bod o'n bosi prynu o'r we, fel ddwedais i dipyn yn ol, medrwch i ddim edrych ar y llyfrau cyn prynu nhw.


Felly - diolch yn fawr, siop lyfrau Lewis - yn stryd Madoc yn Llandudno. beth ydy Aladdin's cave yn Gymraeg? beth bynnag - dyna beth ydy o. Dyma rhai o'r lyfrau prynais:

Wele'n Gwawrio - Angharad Tomos; Seren Win - Eigra Lewis roberts; Yn Ol i Leifior - Islwyn Ffowc Elis. Dw i wedi darllen hynangofiant Angharad Tomos - er nad oeddwn wedi clywed ohonni o'r blaen - yr oedd y llyfr ar werth pan oeddwn yn y Fenni ar un o'r cwrsiau. Oedd o ddim yn hawdd i ddarllen (i fi) - ond reit diddorol ac yn fy nghyflwyno i byd wleidyddiaeth Cymraeg na wyddwn ddim byd amndanno. Efallai, os dych chi wedi bod yn talu sylw, byddech wedi sylwyddoli bod fi wedi darllen Yn Ol i Leifior yn barod. Mae hyn yn wir - ond y fersiwn i ddysgwyr oedd honna, felly bydd yn dda darllen y fersiwn llawn. Hefyd ges i rhai lyfrau am ddim - oherwydd r'oedd nhwo yn clirio allan:Gwen Tomos - gan Daniel Owen (darllais i lyfrau gan Daniel Owen yn yr ysgol, dwi'n siwr - ond dwi ddim yn cofio pa un;llyfr o'r enw hen Atgofion - W J Gruffydd a fersiwn gwreiddiol o William Jones - dwi hefyd wedi darllen y fersiwn Cam Y Cewri o honna hefyd.


Wedi prynu digon o lyfrau am flwyddyn, bron, es i siop arall yn Nghaernarfon - oherwydd oeddwn i eisiau prynu lyfr neu ddau T Llew Jones. Felly o mewn i Palas Print a phrynais mwy o lyfrau - a dipyn o gerddoriaeth hefyd. Ond mae'n drist gweld bod ran o gaernarfon yn edrych mor ddrwg - tynnais y llun yma o un adeilad - a mae llawer yn edrych rhy fath - yn enwedig yn Stryd Bangor.
English summary
I found some second hand Welsh books to read in Lewis's book shop (siop lyfrau Lewis) - in Madoc Street in Llandudno- a real treasure trove so part (note just part) of my book list includes:
Wele'n Gwawrio - Angharad Tomos; Seren Win - Eigra Lewis roberts; Yn Ol i Leifior - Islwyn Ffowc Elis. I have read Angharad Tomos's autobiography - to be honest - I had no clue about her or who she was but bought the book as it was on sale at one of the courses in Abergavenny and it introduced me to a whole new world of Welsh language activism which has been a big part of her very interesting life. Also, (I may be over generalising but this is how it seems to me) many Welsh writers are driven to write by the Eisteddfor - and competitions in the Eisteddfod. I guess it works a bit like going for the Orange or booker - except that, those competitions are for books already published - whislt winning one of the big prizes at the Eisteddfod is for writing to a particular theme. It is afterwards your book gets published. I thought this was fascinating. I also had some books thrown in free from a clear out. I didn't really have enough time to browse for hours but came away with enough to keep me going for a long time...........
Later in Caernarfon however, I then browsed a new bookshop. The trouble with second hand bookshops is you have to go for what they happen to have in stock really - whereas new bookshops are likely to keep in popular books. The shop in Palace Street is great - and I bought a few children's books - great for learning Welsh, you get a real variety of language - and also Iolo William's Book of nature - an illustrated paperback with Welsh descriptions and names and photographs of birds, plants and animals - really useful for trying to learn and remember the Welsh names.

Labels:

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home