Dwi ddim wedi llwyddo i flogio ers dod yn ol o gerdded yn Sir Benfro. Un o’r pethau dwi wedi bod yn gwneud ydy gorffen y gwaith ysgrifennu ar gyfer y ffolio sydd yn rhan o’r arholiad uwch, ac o’r diwedd dwi wedi ei gorffen ac aeth yn y post yr wythnos yma. Dal i fynny gyda gwaith. A hefyd gwneud dipyn yn yr ardd. Ar ol y tywydd garw, oer, daeth y Gwanwyn go iawn a’r planhigion i’w gweld bron yn tyfu dros nos yn yr ardd.
Un syndod oedd y penbyliaid! Roedd y grifft llyffant wedi rhewi am wythnosau - ac yn edrych fel ei bod wedi marw cyn i fi fynd i ffwrdd, Ond gwelwch be oedd yn y pwll erbyn i mi ddod yn ôl: lluoedd o benbyliaid bach bach
Felly dros y pewythnos, lwyddiais i blannu hadau Rudbekia, rocet, symyd y planhigion letys bach, a hyd yn oed un rhes o datws newydd.
Mae rhai o’r coed ffrwythau yn blodeuo - dyma’r gellygen sydd ar y wâl cefn.
Dwi ond yn gobeithio bod ’na ddigon o wenyn i beillio’r coed. Dyma un o leiaf.
A dyma ychydig o luniau eraill: y coeden ceirios yn blodeuo eto er ei fod wedi blodeuo yn y gaeaf; coeden magnolia a morwydden gyda cenin pedr yn tyfu o’i gwmpas.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home