Bwyd o'r ardd a darllen
Er ei fod more oer dydd Sul diwethaf penderfynnais cael riwbob o'r ardd i wneud crymbl, ac ar ol tynnu'r riwbob (allan o'r rhew ac yr eira) dyma fo, cyn ei goginio
Ond dwi ddim yn meddwl bydd llawer ar ol i dynnu eto, nes iddo fo gael dipyn o wres a haul i dyfu eto.
Gan ei fod more oer, mae'n braf eistedd o flaen y tan yn glud a gwneud dipyn o ddarllen. Ac ar ol rhoid Y Storiwr i lawr, mi wnes i ail-ddechrau ar Petrograd. Tro diwethaf, darllenais ryw 50 tudalen. A'r tro yma, dwi wedi cyrraedd tudalen 100, ond mae'r stori yn mynd ymlaen braidd yn araf, ar y funud, yn fy marn i. Os dwi yn llwyddo i orffen y llyfr, mad na ddau lyfr arall i ddarllen yn y gyfres, ac am fod Petrograd yn lyfr trwchus, digon i gadw fi'n mynd am ychydig o amser!
R'on yn drist gweld y newyddion yn y Guardian am siopau llyfrau annibynnol yn cau. Fel dych chi'n gwybod os dach chi wedi bod yn darllen be dwi wedi sgwennu o'r blaen, dwi yn archeb fy lyfrau o Pala Print sydd yn cynnig gwasanaeth ardderchog. Mae llyfrau yn dod yn gyflym trwy'r post ac os dach chi'n byw digon agos, cewch coffi a pori trwy'r llyfrau mewn awyrgylch cyfeillgar, a mae'r perchenog yn gweithio gydag ysgolion lleol ac yn cefnogi bob fath o ddigwyddiadau.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home