Cawsom drafodiaeth diddorol iawn yn ein clwb darllen ryw bythefnos yn ol, pan ddaeth Aled Pedrick, cyfarwyddwr y ddrama, i ymuno a ni i drafod
Saer Doliau
Roedd rhai ohonon ni wedi mynd i weld y ddrama yn Theatr y Finborough ar ddechrau mis Chwefror, . Fel sgwennais ar y pryd, doeddwn i ddim yn siwr o gwbl am “ystyr“ y ddrama. Roedd y ddrama wedi ei gwrtogi - ond roedd cynhyrchiad Aled Pedrick yn ffuddiol iawn i’r ddrama gwreiddiol. Mae rhaid dweud, wnes i ddim sylwi ei fod wedi ei gwrtogi, ar ol darllen y ddrama.
Cododd y cwestiynau amlwg: pwy oedd y Giaffar? Pwy ydi’r merch? chwant? amser? Enigma? Un peth nad oeddwn wedi sylwi, ond mi roedd yn amlwg wrth edrych yn ôl, oedd y ffordd bod y ddrama yn datblygu ac yn symud o geiriau i byd gorfforol. Yn ôl Aled, roedd adolygiau o’r byd Saesneg yn awgrymu bod y gynulleidfa wedi dallt be oedd yn digwydd heb dallt yr iaith.
Gwnaeth y drafodiaeth i fi feddwl o’r manteision o berthyn i fyd bach Cymraeg - dwi ddim yn medru dychmygu cael y cyfle i wrando ar gyfarwyddwr ddrama Cymraeg yn siarad am ei waith ar ol gweld drama.
A dyma llun o Aled gyda ni yn y clwb darllen - gwnes i ddim lwyddo i gael pawb i fewn i'r llun yma - ond James! (sydd ar y chwith)
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home