Mi ddaeth y gaeaf
yn ôl i frathu, yr wythnos yma. Ond pedwar diwrnod ar ôl dŵad,
dyma’r grifft yn y pwll, wedi rhewi i gyd. Dwi ddim yn meddwl bod llawer
o obaith iddyn nhw goroesi, ond gawn ni weld.
Mi aethon ni i Ludlow dros y benwythnos i aros gyda ffrindiau. Lle
braf i grwydro, a digon o lefydd ardderchog i fynd am dro. Ond ar
ol stidio bwrw pnawn Sadwrn, mi roedd haen o eira dros y dre bore Sul.
Dyma lluniau o’r olygfa o’r comin, ac yng nghoedwig Mortimer.
1 Comments:
Mi welais innau byllau wedi rhewi'n gorn efo grifft ddydd Mawrth d'wytha, ond roedd y rheiny yn uchel iawn ar lethrau Rhinog Fawr.
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home