Ailddysgu

Monday 6 May 2013

Clwb Darllen Llundain, Bethan Gwanas a Gwenyn


Dwi’n meddwl bod ymuno a’r clwb darllen Llundain yn un o fy mhenderfyniadau gorau. Nos Lun diwethaf, daeth Bethan Gwanas i ymuno a’r clwb darllen Llundain a Fforwm Cymry Llundain am y noson.   Roedd aelodau’r clwb wedi darllen Hanas Gwanas - sydd yn llyfr difyr, bywiog -  a trist mewn llefydd. Un o’r pethau mwyaf diddorol i fi, (ond mae’n anodd dweud achos bod ‘na gymaint) roedd y ffaith ei bod hi wedi dod i werthfawrogi Cymraeg yn weddol hwyr yn ei phlentyndod.  Y brif reswm, meddai hi, am iddi hi beidio darllen Gymraeg, oedd diffyg llyfrau da, cyffrous a mewn iaith sydd yn adlewyrchu iaith y stryd: iaith mae pobol yn siarad.  A efallai bod hyn yn peth da - os dyna un o’r pethau i droi Bethan i fod yn awdures.  Roedd hi hefyd wedi gofyn i bobl ifanc pan roedden nhw ddim yn darllen llyfrau Cymraeg a’r ateb oedd – mae nhw’n boring, mae rhaid darllen nhw efo geiriadur gerllaw – a dim rhyw.  Felly aeth Bethan ymlaen i ysgrifennu’r fath o lyfrau roedd hi’n gobeithio bydd yn denu bobl i ddarllen yn y Gymraeg. A mae hi wedi llwyddo.  Roedd ei hunangofiant ar frig y restr o’r best sellers Cymraeg. A chawson noson gwych gyda hi.  

Prynais ei llyfr diweddaraf: Y Llwyth.  Ia, llyfr ar gyfer plant ydi o.  (Ond mae rhaid i fi gyfaddef, dwi’n hoff o lyfrau plant a mae nhw’n ffordd dda o ymarfer a’r iaith.)  Beth bynnag, mae o’n lyfr dda iawn – a dwi wedi sylwyddoli fy mod i heb darllen ei holl lyfrau i blant – felly mi fyddaf yn gyrru archeb i Palas Prints cyn bo hir.  Ac os dach chi ddim wedi darllen llyfrau bethan Gwanas - ewch amdani!  - ac os dach chi eisiau gweld Bethan mewn cyd-destyn arall – ewch i Clic i wylio Sioe Tudur Owen ar ddiwedd Ebrill, i weld y hwyl.

Y peth arall da a ddigwyddodd yr wythnos diwethaf roedd y penderfyniad i wahadd blaladdwyr (pesticides) sydd yn debyg o fod yn niweidiol i wenyn.  Mi wn bod y dystiolaeth ddim yn gyflawn ond dwi’n meddwl bod gormod o berygl i beidio gwneud hyn a roeddwn yn falch iawn gweld bod Brwsel wedi gwneud y penderfyniad yma.

Dwi’n llawer hwyrach nag oeddwn i’n gobeithio yn postio hon: wedi bod yn dal i fynny efo’r garddio dros y penwythnos – mwy am hynny i ddod.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home