Ailddysgu

Sunday 2 June 2013

Tywydd braf

O'r diwedd dyn ni'n cael tywydd gynnes a braf am mwy na tri diwrnod, ac ar ol yr holl law wythnos diwethaf (a'r holl gwaith) mae'r ardd yn edrych yn dda


Ond heddiw, mi es am dro gyda fy ffrind, ac wrth erdded ar hyd y gamlas at y tafarn i gael cinio, dyma sypreis:  "Book boat".  Ia, cwch yn gwerthu llyfrau ail-law, yn symud o gwmpas y gamlas.


A wedyn heibio'r gwarchodfa natur lle roedd y gog yn canu - ac i fynny heibio'r llyn pysgota - yn edrych yn heddychol iawn ar bnawn mor braf


0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home