Ailddysgu

Saturday 22 June 2013

Pethau Cymraeg a'r ardd


Dwi wedi cael cael amser prysur ofnadwy  dros y tair wythnos ddiwethaf yn enwedig yn y gwaith a gyda’r Cymraeg.  Ar ol yr holl amser o baratoi  y ffolio ac yn y blaen, roedd yr arholiad Uwch dipyn dros wythnos yn ol.  Sgwennais flog byr ar y pryd.  Mi wnes i fwynhau y rhan fwyaf o’r profiad yn y diwedd.  Dydy sgwennu yng Nghymraeg, yn enwedig Cymraeg ffurfiol, cywir, dim yn hawdd o gwbl – wel, medraf sgwennu digon heb lawer o drafferth – ond y cywirdeb ydy’r broblem!  Ond wedi dweud hynny, dwi’n gwerthfawrogi y bwyslais ar sgwennu a.y.y.b.  Hebddo fo, mi faswn ddim wedi rhoi lawer o sylw at y peth o gwbl.  Mi es i’r Wyddgryg am yr arholiad – neu Y Wyddgrug, fel sgwennais ar fy mlog (dach chi’n gweld y broblem!) a roedd pawb yn groesawgar iawn.  Dwi’n meddwl bod strwythyr yr arholiad yn gweithio’n dda iawn, chwarae teg – a’r rhan olaf, y sgwrs, wedi ei seilio ar erthygl a cynnwys y ffolio , yn syniad ardderchog. 
Ar ol dod yn ôl ar y dydd Iau, mi es i ysgol un dydd yn y Ganolfan yn Llundain ar y dydd Sadwrn.  Erbyn bore Sadwrn, gyda codi’n gynnar a minnau wedi blino, mi roeddwn yn difaru, braidd - ond roedd yn ddydd arbennig  o dda.

Mi gawson brofiad ardderchog yn nosbarth Gwen Rice - canolbwyntio ar grammadeg yn y bôn, ond mewn ffordd da, gyda esboniadau  a trafod gwych.  A wedyn yn ôl i “deadline“ arall yn y gwaith......

Ond hefyd, ddoe, Mehefin 21, mi es o gwmpas yr ardd yn gweld be oedd wedi llwyddo a be oedd ddim mor dda.   Mae o’n bwysig nodi beth sydd wedi methu yn  ogystal a be sydd wedi llwyddo, felly dyma rhai o’r engreifftiau, mewn llyniau.....


Fel gwelwch, mae hwn wedi cael ei fwyta, felly mi dynnais o allan, i gael ei dendio.  Ond mae'r un yma, ar y llaw arall, wedi gwneud yn dda


Os dwi'n cofio, a os mae geni be sydd angen, dwi'n rhoi copor o gwmpas y rhai bach,  mae plisgyn wy yn dda hefyd - a gweddillion coffi, a i fod yn sicr dwi'n roi rhai 'pellets' hefyd - ond dim gormod!

A be am y gwely gwag yma?  Dyma lle roedd y panas



Ond ychydig bach daeth, felly tynnais nhw allan a mae rywbeth arall yna rwan, ond mae o'n cymryd amser i weld bod rywbeth wedi ffaelu - yn enwedig panas - sydd yn araf iawn, a felly mae'r peth nesaf yn hwyr iawn.

Ond ar y gyfan mae'r ardd yn edrych yn dda

Mwy y tro nesaf.  Dwi wedi colli gymaint o amser am anghofio'r cyfrinair a trio sefydlu un newydd.  Eto......

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home