Ailddysgu

Wednesday 23 October 2013

Cerdded ar arfordir Ynys Môn


Cyrhaeddais  adref neithiwr ar ôl amser hyfryd ar yr arfordir, er gwaetha’r tywydd.  Erbyn i ni gyrraedd Malltraeth lle roedden yn aros, roedd y glaw wedi cilio, a’r haul yn dod allan.  Felly aethon ar y llwybr arfordirol trwy rhan o Goedwig Niwbyrch, yn edrych allan am wiwerod coch - ond doedden ni ddim yn llwyddianus.  Erbyn cyrraedd Traeth Llanddwyn, ’roedd y golau yn fendigedig, fel gwelwch yn y llun, a r’oedd o bron yn dywyll erbyn i ni orffen cerdded.



Ond erbyn bore Llun, roedd yn stidio bwrw eto - felly -  dianc i Beaumaris am y bore, ac yn ol i gerdded yn y pnawn, ar ol i’r tywydd gwella dipyn.  Dyma lun o un o’r merlod sydd yn pori ar y twyni: 



  Ddoe, cerddon ymlaen at Moel y Don: mae’r rhan yma o’r taith yn mynd ar hyd yr Afon Menai, gyda golygfeydd hardd o’r tir mawr.  Wrth gwrs, dydy o ddim yn bosib cerdded ar yr arfordir gyfan - mae rhan o'r arfordir mewn dwylo preifat: felly yn y pnawn, aethom i ymweld a Plas Newydd - sydd wedi dwyn y golygfeydd gorau.  Dyma rhan o'r teras a'r Afon Menai yn y cefndir. 

 
Mor hyfryd fase cael golygfa fel'na o'r !!

2 Comments:

At 23 October 2013 at 14:36 , Blogger Wilias said...

Falch fod y trip heb ei ganslo oherwydd diffyg trenau! Mae llun y machlud dros Ynys Llanddwyn yn arbennig. Mi ddyliet ei yrru at raglen Galwad Cynnar i'w ystyried ar eu calendr nhw.

 
At 24 October 2013 at 13:04 , Blogger Ann Jones said...

Diolch Wilias! Ia 'roedd yn werth mynd yn sicr - er gyda ddoe a heddiw mor haelog trueni nad oedd y tywydd dipyn yn well. Doedden ni ddim yn gwybod bod calendr gan Galwad Cynnar. Rhaid i mi wrando ar y rhaglen eto - rywsut dwi wedi stopio

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home