Ailddysgu

Tuesday 15 October 2013

Garddio cymunedol a Tyfu Pobl



Dwi’n hoff iawn o’r cyfuniad o bwyd, garddio,(llysiau a ffrwythau yn enwedig) a gwneud pethau cymunedol.  Dydy fy ngarddio i ddim yn gymunedol, gan mai gardd  sydd gennyn ni, yn hytrach na rhandir.  Ond mae prosiect yn Wolverton, dim yn bell o lle dwi’n byw yn tyfu llysiau, ffrwythau a dipyn o flodau, ac hefyd yn  yn cynnig hyfforddiant i bobl ifanc mewn garddwriaeth (horticulture).  Enw’r prosiect ydy Growing Peoplesydd yn andros o debyg i Tyfu Pobl
 - cyfres newydd ar S4C, gyda Bethan Gwanas a Russell Jones.

Mi es i ymweld a’r “Urb Farm“yn Wolverton, lle mae'rprosiect; ryw bedair filltir i ffwrdd, dydd Sadwrn, gan bod Diwrnod Agored yna.  Mae gennyn nhw ddau acer a hanner 

- ac yn tyfu bob fath o lysiau, gyda cymorth gwirfoddolwyr, yn ogystal a’r hyfforddwyr, ac yn cadw gwenyn a ieir. Dyma llun cwch gwenyn gwyllt 



- a hanes y cwch, 


a  gwirfoddolwraig.  


Mae hi wedi dod ar sail  y cynllun “WOOF“ - “Working On Organic Farms“ ac yn aros yn lleol.  Ond mae gwirfoddolwyr o’r dinas hefyd yn cyfranu at y prosiect.  Mae gennyn nhw (Growing People) cynllun bocs llysiau gwahanol.  Yn lle cael bocs gyda beth bynnag mae nhw eisio roi i chi, a ffeindio bod gennych chi lwyth o fresych deiliog (neu be bynnag dach chi ddim yn hoff iawn ohono fo) mae’r prynwyr yn medru edrych ar y wefan i weld be sydd ar a gael yr wythnos honno - a wedyn archeb be yn union mae nhw eisio.  Syniad gwych!

Ar ol gadael, aethon i ymweld a pherllan gymunedol gerllaw sydd yn llawn o syniadau  a phethau gwych - fel y sied yma


- yn edrych fel rhywbeth o’r reilffordd, a’r olwyn perlysiau, i ddenu gwenyn a glöynnod byw 


- a gwybodaeth amdanyn nhw hefyd i’w chael:

  

A beth am hwn fel rhywbeth i wneud y pwll bach yn saff - ac yn atynidadol hefyd!


0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home