Ailddysgu

Sunday 18 May 2014

Hela a physgota


Dyma’r rheol.  Os dach chi ddim yn mynd a’r speinddrych allan hefo chi, mi fyddwch chi’n gweld yr adar diddorol dach chi wedi bod isio’u gweld am oes.  A mae o rywbeth yn debyg gyda’r camera (ia dwi’n arbfofi gyda fo o hyd…..).  Dwi’n trio gweld os fedrai cael llun o’r cudyll coch sydd yn hela yn amal ar y comin lle dwi’n cerdded gyda’r ci yn y bore ar y penwythnos.  Ar hyn o bryd, mae’r comin yn fôr o flodau gorthyfail (cow parsley) a mae ogla’r flodau a’r ddraenen wen yn gryf.  Yn y rhan yma o’r comin does dim gwartheg yn pori: a mae hyn yn ei wneud o yn le dda i hela llygod bengron y gwair  (field voles) sydd yn hoffi tir sydd ddim wedi cael ei bori fel hwn.


Dydy o ddim yn hawdd cael llun o aderyn sydd yn symud, ond dwi’n gobeithio yn y diwedd cael siawns pan mae hi yn eistedd ar fainc, neu yn hofran uwchben.  Dwi’n meddwl mai’r aderyn benywaidd dwi’n gweld oherwydd mae hi’n aderyn fawr, Mae’r aderyn benywaidd yn fyw na’r gwrywaidd) a mor hardd.  Dydy’r cudyll coch  dim yn brin – ond efalla ddylen ni boeni dipyn oherwydd mae’r niferau yn gostwng eto.  Ond weithiau, wrth gerdded ar yr arfordir, er engraifft, dach chi’n cael cyfle i edrych i lawr ar yr aderyn, a mae o wir yn hardd ofnadwy.  Mae’r lliwiau  yn llachar a ges i ddigon o amser i wylio hi ddoe  wrth ei bod yn hela o gwmpas am ryw awr.

Felly  roedd o’n ddechrau dda i’r dydd.  A gyda’r nos mi es i allan yn hwyr ar ol i’r gwres cilio dipyn, gyda’r ci, a dyna lle r’oedd y dylluan wen yn hela yn  yr un lle.  A dyma be mae nhw’n hela:  llygod bengron y gwair: (o leia dyna be dwi’n meddwl ydy o – a falle un wnaeth aderyn gollwng).


Dwi ddim wedi llwyddo tynnu llun glir o’r tylluan wen, a hithau’n hedfan reit gyflym (ond mi fyddai’n trio eto) ond dyma llun dwi’n licio o’r creÿr bach.



0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home