Ailddysgu

Monday 5 May 2014

Penwythnos hir hyfryd


Dwi’n hoff iawn o fis Mai; mae popeth yn wyrdd, yr ardd yn dod ymlaen, a mae o’n amser diddorol o ran bywyd gwyllt, hefyd, gyda’r adar yn nythu, a’r gwenoliaid yn dod yn ôl (neu wedi dod yn ôl). Efalla mai’r amser yma ydy’r gorau (ond wedyn mi fyddwn yn meddwl hynny yn yr haf ac y Hydref hefyd).  Beth bynnag, cawsom benwythnos hir heulog, ond dim rhy boeth i weithio yn yr ardd, mynd am ambell dro, ymweld a’r gwarchodfa natur a gwneud dipyn bach o goginio (mae rhaid bwyta)...

Dwi wedi bod ar ei hôl hi yn yr ardd.  Yr unig hadau  a oedd wedi mynd i fewn roedd y panas.  Dwi’n trio gwneud dipyn o “crop rotation“: hynny yw, peidio rhoi’r un peth yn yr un lle, blwyddyn ar ol flwyddyn.  Y syniad ydy bod clefyd (sydd yn perthyn i un grŵp o phlanhigion) dim yn cael siawns i sefydlu ei hun a hefyd bod rhai phlanhigion yn gadael maeth yn y pridd ar gyfer y phlanhigyn nesaf.  Dyna’r cynllun.  Ond dydy’r realiti ddim mor hawdd.  Mae un gwely yn fwy na’r lleill a felly yn dda i datws - ond roedd tatws yna llynedd.  R’on yn awchu cael hadau spigoglys a betys i fewn.  Roedd yr hen spigoglys wedi gorffen a mae o’n cymryd dipyn o amser i dyfu.  Ond, yn y gwely lle r’on i wedi cynllunio rhoi nhw, roedd y phlanhigion yma yn tyfu:



Mae nhw’n galw nhw’n “poached egg“ plant yn Saesneg, a dach chi’n gweld pam!  Limonanthes dogulasii ydy’r enw botanegol ac unwaith mae nhw’n tyfu yn eich gardd, mae nhw yna am byth - oherwydd mae’r hadau yn cael eu gwasgaru.  Y peth am y planhigion yma ydy bod nhw’n ardderchog ar gyfer pryfed dach chi eisio yn yr ardd, fel y gwybed hofran (sydd yn bwyta’r clêr gwyrdd).  



Felly doeddwn i ddim eisio tynnu nhw allan, ond yn y diwedd, roedd rhaid cael gwared o rywfaint ohonnyn nhw, ond dwi wedi gadael crin dipyn ar ol, ac ar ol iddyn nhw orffen flodeuo, bydd mwy o hadau llysiau yn mynd i fewn.

Mae’n bwysig cael planhigion sydd yn denu gwenyn ac pryfed eraill sydd yn dda i’r ardd.  Yn y warchodfa natur lleol, mae’r planhigyn yma  yn tyfu. 





 Mae hwn yn yr ardd hefyd, ond teip gwahanol.  Beth bynnag, mae gwenyn wrth eu boddau gyda fo, a mae o hefyd yn dda i fwydo phlanhigion.  Yn ol y geiriadur mawr, “llysiau cwlwm“ ydy o yn Gymraeg.

Roedd y gog yn canu ond dim i’w gweld, ond dim las y ddorlan y tro yma.  Mae un o’r hides (Cymraeg - cuddfan?) yn y coed a dyma’r olygfa ohono fo.

 Lle da i dynnu llyniau a dyma ddau ohonyn nhw.




Ia, yn anffodus, mae'r wiwerod ym mhobman.
A ddoe, ar y comin, tynais llun o fras y gors (reed bunting).  Does dim llawer o luniau o'r ardd yma - felly tro nesa....

2 Comments:

At 6 May 2014 at 13:04 , Blogger Wilias said...

Lluniau da. Dwi wedi llwyddo i ladd y blodau wy oedd yn yr ardd gefn yma; neu efallai mai holl law Stiniog oedden nhw ddim yn hoffi!

 
At 7 May 2014 at 13:28 , Blogger Ann Jones said...

A, felly dyna'r enw Gymraeg! Diolch am y sylw. Ia mae o'n bosib fase nhw ddim rhy hoff o gormod o law!

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home