Diwrnod allan heddiw - yn sioe Gwanwyn Malvern. Es i yna gyda bedair ffrind sy'n aelodau o'r clwb llyfrau (Saesneg, Milton Keynes). Aethom i Chelsea llynedd, a mwynheis y profiad - ond mae o’n ddrud, a mae ’na gymaint o bobl yna, felly roedden isio trio sioe arall eleni, a felly..... ffwrdd a ni gyda’r clwb garddio o’r gwaith, ar y bws.
Roedden ni’n disgwyl glaw trwm trwy’r dydd - yn ol yr arolygion. Ond, cawsom diwrnod gyda ambell sbel fach o haul, ambell gawod a gwynt cryf iawn. Doeddwn i ddim cweit wedi deallt nad sioe blodau neu garddio yn unig ydy’r sioe yma, ond sioe gwanwyn. Felly doedd dim llawer o erddi i’w gweld. Ond mi roedd 'marqui' mawr iawn fel yn Chelsea gyda bob math o stondina, a digon o stondinau bwyd a cynnyrch hefyd. Dyma rhai o’r gerddi.
A dyma planhigyn roedden ni i gyd am brynu - ryw fath o 'scilla' ond na, roeddent wedi gwerthu bob un.
Felly yn y diwedd, prynais planhigion agapanthus, i gael ddipyn fwy o liw yn yr haf. Mae gennyn ni un flanhigyn yn barod mewn pot yn yr ardd ffrynt. Ond, wnaeth o ddim flodeuo llynedd, felly dwi am ei fwydo eleni ac edrych ar ei ol o, a dwi am drio rhoi ddau o’r blanhigion yn y ddaear, a dau mewn potiau, i weld beth sydd yn gnweud yn dda.
A fory yn ol i fy ngardd i, i chwynnu a symud rhai o’r blanhigion tomatos a phupurau i botiau mwy, ac y.y.b. A dyma ychydig o luniau o'r ardd (fel y gwelwch, mae o wedi bod yn wlyb ofnadwy ar brydau).
Labels: agapanthus, glaw, iris, marigold, scilla, Sioe Gwanwyn Malvern
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home