Mae o wedi dod yn arfar bore Sadwrn erbyn hyn. Mae’r hen gi yn fy neffro fi ryw hanner awr wedi chwech (braidd yn gynnar, yn fy marn i...) a dwi’n dod i lawr y grisiau, gwneud paned a gwrando ar Galwad Cynnar ar radio Cymru- a pan mae’r rhaglen wedi gorffen, mae o’n amser mynd am dro.
Bore ’ma mae cofnododd o’r gog yn canu mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru. Yn Nghymru glywais i’r gog y tro gyntaf eleni - tra cerdded ar hyd arfordir Sir Benfro. Ond hefyd mi glwyais y gog wythnos diwethaf hefyd - dim rhy bell o’n dre ni, mi ro’n yn medru ei glywed dros y caeau pan o’n i allan gyda’r ci. Dwi’n cofio gweld saith gog (ia, saith!) blynyddoedd a blynyddoedd yn ôl, mewn dyffryn yng Ngogledd Cymru (dwi ddim yn cofio yn union lle roedden ni - r’oedden ni wedi mynd am bythefnos o gerdded). Dwi’n meddwl fase hynny’n beth brin iawn, heddiw, gyda’r niferau yn gostwng. Beth bynnag, yn fama, os dan ni’n lwcus, dan ni’n ei glywed o unwiath neu ddwywaith y flwyddyn, a dyna fo. Ac wrth sôn am adar fudol, dan ni ddim wedi gweld gwenoliaid yma o gwbl eto eleni: eto, mi welais nhw yng Nghymru ond rywsut, dydyn nhw ddim wedi gwneud y siwrna i fama eto.
Mae Galwad Cynnar yn ffefryn erbyn rŵan: gymaint o wybodaeth a phethau ddidorol am bywyd gwyllt, natur a garddio hefyd, weithiau, a dechrau ardderchog i’r benwythnos. Dydy’r adologyion am y tywydd ddim yn addawol, y penwythnos yma. Dyma un o’n flodeuon yr afal goginio Bramley yn y glaw.
Felly dwi’n disgwyl penwythnos o goginio (ffrindiau yn dod draw am bryd o fwyd heno) a darllen (gyda dipyn o waith yn y tŷ gwydr).....
Labels: blodau afal, Galwad Cynnar, gwennoliaid, y gog
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home