Roedden yn ffodus iawn
gyda’r tywydd tra’n cerdded ar yr arfordir, a rŵan mae hi’n stidio bwrw -
sydd ddim yn beth ddrwg, oherwydd coelio neu beudio. mae’r ardd wedi sychu yn
ofnadwy dros y bythefnos diwethaf.
Felly gyda’r glaw yn
disgyn, a dim modd rhoi’r tatws i mewn, dyma amser dda i drio gofio a ddysgu
enwa’r adar a welson wrth gerdded ar arfordir Sir Benfro. I ddechrau,
dyma’r olygfa o’r gwesty yn “Little Haven“ - wel, uwchben i ddweud y
gwir. Dwi ddim yn meddwl faswn i byth yn blino am olygfa fel hyn.
Llynedd, mi welson ni’r
hebog dramor uwchben y creigiau - ond dim smic eleni. Mae niferoedd yr hebog wedi cynyddu yn Sir Benfro, ond dydy’r cudyll coch
ddim yn gwneud mor dda, gyda’r niferoedd yn gostwng - mae ’na
adroddiad yn fama (dydyn nhwn ddim yn gwneud mor dda yn gyffredinol chwaith. Serch hynny,
gwelson ni sawl gudyll coch yn hela. Mi roedd llawer o adar bach, hefyd.
Un dan ni ddim yn gweld yn lleol ydy’r llinos - a mi roedd digon
ohonyn nhw. Hefyd y llinos werdd, clochdar y cerrig (stonechat), a’r
tinwen y garn hardd i’w gweld yn aml, yn ogystal a'r nico. O’r llwybr uwchben
y creigiau. roedden yn gweld yr aderyn drycain-y-graig, (fulmar) yn hedfan ar hyd y
creigiau gyda’r adenydd mor syth .
Dwi’n
hoffi mynd i aradaloedd a chynefinoedd gwahanol i weld y bywyd gwyllt
gwahanol - ond mae o’n ddiddorol gweld be sydd yn gyffredin i bron bob
man, hefyd. O ran y gudyll goch, mae par yn hela ac yn nythu dim mor bell
o’r fy nhŷ, felly dwi’n gobeithio cael lluniau - ond gawn ni weld!
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home