Ailddysgu

Sunday 30 March 2014

Ychydig o bethau diweddar


O’r diwedd dan ni’n gweld ychydig mwy o adar yn yr ardd - yn enwedig y nico.  Yn ôl canlyniadau The Big Garden Bird Watch mae niferau’r aderyn yma yn cynyddu.  Y pris i ni ydy prynu hadau blodau haul - sy’n ddrud ond dim mor ddrud a’r hadau “Niger“.  A dan ni ddim am ddechrau nhw ar y rheina!  Felly dwi’n cael cyfleydd weithiau i drio allan y camera - a dyma un llun ohonyn nhw. 


Yn ogystal a’r nico dan ni hefyd yn gweld y llinos werdd - (dim llun, mae nhw'n gyflym iawn) a dydy bywyd ddim mor dda iddyn nhw.  Mae’r niferoedd yn godtyngu - yn rhannol oherwydd yr haint mae nhw’n cael o’r ymborthwyr bwyd (bird feeders) - felly mae rhaid glanhau’r feeders  yn aml - yn enwedig os ydy’r colomennod yn gollwng eu faw ar y feeders  a dyna yn union be sy’n digwydd i ni.

Mi gaethon ni gyfarfod o’r cylch siarad Cymraeg nos Iau.  Dydy’r grŵp ddim yn fawr ofnadwy ond fel arfer mae o leiau bump ohonon ni yn medru dod i’r dafarn (dwn i’m be mae’r pobl eraill yn y dafarn yn meddwl!).  Dan ni’n gymysgedd o Gymru Gymraeg - a mae rhai o’r rheini wedi symud o Gymru yn ifanc a wedi colli rywfaint o’i Gymraeg a dysgwyr.  Ar y funud dydyn ni ddim yn gwneud gweithgardddau - ond yn cael sgwrs - neu yn aml, gwahanol sgyrsiau lle dan ni’n tueddu siarad weithiau mewn grwpiau bach gwahanol.  Ond mae o’n braf cael cyfle i siarad Gymraeg gyda gwahanol bobl.

I fi, mae o’n bwysig siarad (a sgwennu rywfaint o Gymraeg).  Onibai hynny, dwi’n anghofio geiriau, achod dwi ddim yn ei ddefnyddio nhw.  Felly ar ganol sgwrs, dwi’n cael be mae nhw’n galw y “tip of the Tongue phenomenon“ yn Saesneg - neu yn waeth, dydi’r gair ddim yn agos i’r dafod o gwbl!

Am unwaith dwi wedi llwyddo i bostio’n gynnar yn y bore (diolch i’r hen gi, sy’n deffro fi’n gynnar y dyddiau yma), felly dipyn o amser i arddio heddiw a mynd am dro.  Roedd hi’n braf yma ddoe, felly aethon am dro i Brickhill Woods.  Dydy’r coedwig ddim yn bell i ffwrdd - ryw 8 filltir, ond am ryw rewm dydyn ni ddim wedi bod am eisoes.  A dyma ychydig o luniau.



0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home