Am tywydd gwych dan ni’n cael ar y funud. Ar ol dipyn o law (yn dilyn cyfnod digon sych) mae’r haul allan eto: dyma llun o’r tren ddoe pan oeddwn yn teithio i Shrewsbury i weld ffrind. (Dinas bach (neu dre?) dymunol iawn - ’rioed wedi bod o’r blaen).
Yn ol yn yr ardd mae digon i’w gwneud o hyd. Gyda’r diwrnodau byr, dwi wedi bod yn tynnu plisg y cnau gyda’r nos - gymaint o gnau eleni: dyma’r cnau gwreiddiol…..a wedyn ar ol ’prosesu’ nhw…..
wedi eu casglu….
Ac ar ol tynnu'r plisgyn allanol….
A'r plisgyn nesa'.
Cymryd oes - rwan dwi'n gwybod pam mae cnau yn ddrud yn y siopau!
Am ryw reswm, mae’r pry moron wedi cadw draw eleni yn yr ardd - o rywfaint o’r moron beth bynnag. Fel arfer bydd rhaid tyfu’r moron yn y tŷ gwydr, ond mae rhain digon dda!
3 Comments:
Sut ar y ddaear ti'n cadw'r wiwerod llwyd oddi ar y coed cnau? Maen nhw'n edrych yn hyfryd, ac yn werth yr ymdrech dwi'n siwr.
Helo! Ond wedi gweld y sylwad yma rwan. Am ryw reswm dydy'r wiwerod llwyd dim yn dod i'r coed yma! Mae 'na ddigon o gwmpas, ond dim yn ein gardd ni, nac ar y tir ty allan. Unwaith dwi'n cofio daeth wiwer llwyd i'r ardd, a'r pryd hynny roedd gennym gi defaid, ac ar ol i'r ci cyfarth yn di-baid, diflanodd y wiwer.
Ond ti'n iawn, unwaith mae wiwerod wedi darganfod coeden ffrwythau neu cnau, does dim gobaith. Dan ni wedi bod yn ffodus iawn!
Rydw i wedi fy synnu wrth i mi rannu fy mhrofiad yma i adael i'r byd i gyd wybod am ddyn a achubodd fy mherthynas a gelwir y dyn mawr hwn yn Dr. IZOYA. Yn wir mae wedi profi i mi, trwy ddod â fy nghyn gariad yn ôl a adawodd fi ac addo na fyddaf byth yn dychwelyd yn ôl ataf eto dim ond oherwydd iddo ddechrau gwrando ar glecs ohonof i ddim yn ffyddlon. Gyda hyn, rwyf wedi dod i sylweddoli y bydd rhoi manylion Dr. IZOYA i'r byd yn gwneud llawer o les i'r rhai sydd wedi torri cartrefi neu berthnasoedd iddo atgyweirio'r berthynas doredig honno neu briodas eich un chi. Gallwch ei gyrraedd trwy ei gyfeiriad e-bost: drizayaomosolution@gmail.com. Cysylltwch ag ef a gweld sut y bydd eich problem yn cael ei datrys o fewn 24 awr. Mae hefyd yn arbenigo yn y materion canlynol ...
(1) Rydych chi eisiau'ch cyn-gefn ..
(2) Rydych chi am i ddynion / menywod eich dilyn chi.
(3) Rydych chi eisiau plentyn ..
(4) Mae angen help ysbrydol arnoch chi.
(5) Stopiwch yr ysgariad ..
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home