Gwanwyn, dydd Gwyl Dewi a hel atgofion...
Dwi ddim yn siwr pryd cafodd y llun ym ei dynnu, ond fel gwelwch roedd digon o hysbysebu ar yr adeilad! W.J.Owen oedd enw'r siop - "Corn & Seed Merchants" oedd hi. Mae'n anodd gweld yr enw yn y llun, ond mae enw Harpers [drws nesaf dwi'n meddwl?] yn amlwg yn y llun nesaf - lle 'r ydwi ym mreichiau Anti Glad, bron ty allan i'r siop.
Erbyn y chwechdegau fy nhad, fy modryb, Anti Glad, a weithiau 'Wili Vaughan', cefnder fy nhad, odd yn rhedeg y siop. A dyma llun fy nhad yn gweithio ty fewn i'r siop:
Dydy o ddim yn llun da iawn. Mae dydd Gwyl Ddewi yn arbennig o hyd a mi fyddaf yn mynd yn ôl i Gaernarfon am y benwythnos i gymryd rhan yn y Gŵyl ddewi Arall sydd ymlaen. Edrych ymlaen.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home