Diwrnod digon diflas eto heddiw, o ran y tywydd, ond amser digon diddorol yn ein gwarchodfa natur lleol: ond ryw ddwy filltir o'r tŷ. Mae'r gwarchodfa yn cynnal 'Sul Agored' bob fis, lle mae bob guddfan ar agor i ymwelwyr, a hefyd yr adeilad. Yn fana, mae llyfrau ail-law ar werth, te a choffi a cacennau cartref, i gyd i godi bres tuag at y warchodfa.
Heddiw, roedd Andy yn tywys taith cerdded byr o gwmpas y warchodfa. Fo ydy'r 'county recorder' (dwn i'm be ydy hynny yn Gymraeg!) a felly mae o'n cyfri ac yn cofnodi'r adar, yn enwedig y hwyiaid. Syniad da i fynd a bobl gyda diddordeb yn yr adar gyda fo. Gwelsom ni ddim llawer heddiw, ond roedd yn dda gweld dringwr bach, a hefyd llwynog, yn sefyll yn gwylio ni - ond dim digon o amser i godi'r camera cyn iddo fo fynd. Dyna alun o un o'r cuddfannau:
Wedyn yn ol i fewn am banad a gweld be arall oedd o gwmpas. Mae na lofft i adeilad y warchodfa lle mae'n bosib cael golygfa gwych, a telesgopau ar gael hefyd.
A wedyn i'r tafarn gerllaw am ginio gyda fy ngwr a mab, ac i gynhesu wrth yml y tan.
Wrth mynd a fy mab gartref, es i faes parcio IKEA. Na, dim i siopa yn Ikea, ond oherwydd bod sawl gynffon sidan wedi ei gweld yna ( a roedd hi ar y ffordd), ond na, methais gweld un, a buan r'on i wedi laru gyda maes parcio orlawn a bwrlwm y lle, felly yn ol adre.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home