O’r diwedd mae’r dyddiau yn ymestyn dipyn bach, a mae’r tymor garddio yn nesau. R’on i a fy ngŵr yn Ludlow dros y benwythnos yn ymweld a ffrindiau - dyma’r olygfa o lle roedden yn aros.
Gwych. Ond roedd y tywydd yn ddigon wlyb, yn enwedig ar y dydd Sul, pan roedden yn teithio’n ôl. Felly cawsom hoe bach yn y ganolfan garddio yn Buckingham. Fel bron bob ganolfan arddio arall, mae’r ganolfan yma wedi dechrau gwerthu bob fath o bethau gyda dim gysylltiad a garddio o gwbl. Serch hynny, maent yn tyfu eu planhigion ein hunan, ac yn gwerthu tatws ar gyfer plannu yn rhydd. Felly es ati i brynu ychydig o datws i blannu eleni, yn cynnwys tatws Ratte.
Dwi’n cytuno gyda’r dyn sydd wedi sgwennu’r
blog yma: mae ’na blas ardderchog arnynt.
Ond syn dechrau eto gyda'r ardd - a mae hi braidd yn gynnar ar hyn o bryd, dwi am trio dacluso rhan o'r ty, ac yn holl bwysig, cael gwared o bethau dan ni ddim wir angen mwyaf. Dwi'n ofni bod orchwyl hir o fy mlaen i..............
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home