Heddiw
mae’n bwrw - ac yn ddiwrnod ddiflas ar y cyfer, felly mae’n werth cymryd mantais
pan mae’r tywydd yn braf - a diwrnod felly cawsom ddoe. Awr ar y comin bore
ddoe, a’r haul yn dod allan, a gwylio’r cudyll coch. Mae niferau’r
aderyn yma wedi gostwng trwy Prydain. ‘Roedd yn aderyn digon gyffredin pan oeddwn i’n
blentyn, yn bendant. Mae’r RSPB wedi bod yn gwneud ymchwiliad a hyd at
hyn, mae’r canlyniadau yn dangos mai newidiadau yn y ffordd o ffermio, a
defnyddio cemegau i ladd llygod, yn enwedig defnyddio gwenwyn i ladd llygod
mawr sy’n gyfrifol.
Mae par ar y comin, ond fel arfer
ond y iâr byddaf yn gweld [dwi’n ei cymryd hi mai par ydynt oherwydd weithiau
mae dau yn hedfan].
Mae’r brân yn ddi-dostur weithiau,
ac ar nos Fercher, pan oeddwn yn mynd allan gyda’r ci, cyn iddi hi nosi go
iawn, r’oedd brân bron ar gynffon y cudyll coch, nes iddi hi gorfod cludo mewn
coeden.
Dyma
hi ddoe
Gobeithio bydd hi’n llwyddo i godi teulu. Ddyle fod digon
o fwyd iddi hi ar y comin, gyda’r llygod bengron.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home