Otmoor
Mae’r tymor yn newid, a’r tymheredd wedi gostwng - ac am fod yn oerach byth. Prynhawn yma, glaw trwm, a gwyntoedd cryf. Ddoe, yn y prynhawn, mi es i Otmoor, gwarchodfa natur RSPB gyda fy ffrind Jan. Dwi ond wedi bod unwaith o’r blaen, ond mae’r llecyn yma yn arbennig iawn. Er ei fod yn yml Rhydychen, rhos isel neu cors ydy hi: gwlypdir gyda’r fath o adar fasech chi’n disgwyl mewn cynefin fel hyn. Unwaith roedd y wlypdir yn enfawr, ond fel sydd yn digwydd, cael ei droi i dir ar gyfer ffermio oedd hanes y ran fwyaf. Ar wahan i Otmoor. A mae’r RSPB wedi bod yn datblygu’r warchodfa ar gyfer rhywiogaethau arbennig, fel aderyn y bŵn, bod y gwerni ac yn y gaeaf, bod tinwen. Ddoe, ’roedd bod y gwerni i’w gweld, a hefyd bod tinwen - mae nhw yn dod i lawr o’r tir isel yn y gaeaf. Falle mae un o’r Alban oedd hon. Doedden nhw ddim yn agos, yn bendant dim digon agos i gael llun.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home