Ailddysgu

Monday 23 October 2017

Paratoi am y gwanwyn

Rhyfedd sut mae pethau yn newid.  Dydd Gwener es am daith cerdded hyfryd o’r tŷ gyda fy ffrind, i fynny at goedwig bach, hynafol, Little Linford Wood, ac i lawr wedyn heibio’r warchodfa agosach  ac ar ol cinio yn y tafarn, cerdded yn ol ar hyd yr hen reilffordd.  Hyfryd. Dyma llun o rhan o'r goedwig yn ol yn yr haf.


Ond bore Sadwrn, ar fyn nhaith cerdded boreuol at y comin, roedd Teo [y ci]  yn chwarae gyda ci arall, a chyn i fi wybod, ges i fy nharo a syrthiais i’r ddaear galed gyda chlec.  Dim byd wedi torri, ond mae’r clec ar fy mhenglin wedi achosi dipyn o niwed  - “Soft tissue damage” -  a dwi ddim yn medru cerdded ar hyn o bryd.  Felly, dwi’n bod yn hogan dda ac yn gorffwys fy nghoes ac yn rhoi rhew arno i helpy’r chwyddo a.y.y.b.

Dwi ddim wedi arfer gorwedd i lawr fel hyn.  Dwi’n medru dod i fynny’r grisiau ar fy nhîn – a mynd i lawr eto, ond mae o’n cymryd cryn dipyn o amser.  Felly bore ‘ma dwi yn y gwely – a wedi dechrau archeb bylbiau a hadau ar gyfer yr ardd.  Peth peryglus ydy hyn: rhyngrwyd, gliniadur a cherdyn debyd.  [debit?? Yn ol y geiriadur].

Darllenais erthygl Alice Fowler yn rhybuddio ni bod bylbiau arferol yn llawr o gemegau  sydd yn achosi niwed i’r creaduriad bach yn y pridd.  Fel arfer dwi’n prynu bylbiau o’r canolfan garddio, [er fy mod yn prynu hadau fel arfer o Garden Organic] ond dwi newydd prynu ychydig o fylbiau organic eleni.  Felly dw’n edrych ymlaen at cael ychydig o fylbiau a cael edrych ymlaen at y Gwanwyn, yn ogystal a’r sialóts a’r hadau ffa llyden.

Dyma rhai o be dwi wedi prynu....[lluniau o sut wnaethon nhw eleni...]




A rŵan dwi am archeb llyfr Gymraeg neu ddau….

2 Comments:

At 23 October 2017 at 11:52 , Blogger Marconatrix said...

Mae'n ddrwg gen i clywed am eich damwain chi. Gobeithio eich bod chi'n wella yn gyflym ac yn mynd am dro cyn bo rhy hir :-)

 
At 1 November 2017 at 01:30 , Blogger Ann Jones said...

Diolch am eich sylw a chydymdeimlad! Dwi'n trio bod yn amenyddgar - ac yn cymryd fantais o'r cyfle i ddarllen mwy

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home