Ailddysgu

Tuesday 22 August 2017

Cynnyrch y tymor


Mae mis Awst wedi bod yn eitha llwyddianus yn yr ardd.  Ar ol tywydd sych yn gynharach yn y flwyddyn [a gorfod dyfrio, a dyfrio, a dyfrio...] daeth digon o law, a mae’r llysiau a’r ffrwythau yn ffynnu.

Dwi erioed yn cofio cael gymaint o ffa Ffrengig [dwarf French beans].  Mae nhw’n dod a dod a dod....  Dan  ni wedi bod yn bwyta ffa ym mhob pryd o fwyd am eisoes; dwi wedi rhewi llwyth ohonyn nhw a mae na mwy i mynd i’r rhewgell.  


A fel y gwelir, mae digon o eirin, hefyd.  Y rhain ydy'r diwethaf i ddod, ond maent yn gynnar eleni: eirin Fictoria ydyn nhw, a mae nhw'n ardderchog.  Mae digon o eirin Czar, ac eirin 'Jubilee' yn y rhewgell yn barod.

Mae llwyth o afalau gynnar Discovery - sydd ddim yn cadw, a llwyth o ciwcymbers - a neithiwr, wedi methu bwyta ein ffordd trwy’r cnwd i gyd, mi es i lawr y stryd yn gweld os oedd y cymdogion isio llysiau.  Mae’n gas gen i geastraffu bwyd.

Ac yn sicr mae’r hydref yn dod.  Dwi wedi gweld llwyth o fadarch wahanol.  Dwi bron yn sicr mai Madarch Ceffylau [??ydy hwn yn iawn, tybed? horse mushrooms yn Saesneg] ydy’r rhain





 - ond dwi ddim wedi bod digon dewr i’w fwyta nhw.  Eto!  Ond mae 'na digonnedd o fadarch wahanol o gwmpas, fel y rhain hefyd - yn dod trwy'r concrit.


0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home