Dwi newydd orffen darllen y llyfr am yr ail-waith. Felly mae rhaid fy mod i wedi ei mwynhau o ddifri a meddwl ei fod yn werth ail-ddarllen. A mae hynny sicr yn wir, er fy mod ddim cweit yn siwr beth yn union sydd mor hudolus am y llyfr yma. Y tro yma dan ni’n darllen y llyfr yn y grwp darllen yn Llundain – a bydd o’n ddiddorol gweld be mae eraill yn gwneud ohono fo. Dydy o ddim I ddant bawb swn i’n meddwl. Ond bydd rhaid aros tan ddiwedd Fedi i weld - dyna pryd dan ni’n trafod y llyfr.
Dydy o ddim wedi dod yn lyfr glasurol, am wn i. A falle ei fod o yn rhy hir i rai ddarllenwyr. Mae yma anturiaethau a chyffro, ond yn y bôn, dim dyma ydy brif gymeriad y llyfr. I fi, mae o’n lyfr am natur ddynoliaeth, am gyfeillgarwch – yn ogystal a thrais a chreulondeb - a be sydd yn digwydd yn y pen draw pan mae pobl yn cael eu drin yn wael ac o dan ormes. Mae o’n trafod byw mewn gymuned, a hefyd mae’r cymeriadau yn treulio llawer o amser yn teithio ar droed. Does dim ffordd arall o deithio: dydy ceffylau ddim yn cael eu ddefnyddio – a does dim technoleg yn y byd yma chwaith.
Mae’r iaith yn ardderchog ond yn anodd mewn llefydd i rywyn ail iaith Gymraeg [ fel fi]. Does dim cyfaddawd yn fama gan Alun Jones.
Yn y byd yn y nofel yma, mae annifeiliad gwyllt yn chwarae rhan fawr, yn enwedig yr eryr a’r blaidd. A natur ei hyn; y tywydd, y mynyddoedd a’r creigiau a’r llynnoedd. Yn y diwedd, y tro yma, r’on i’n meddwl bod y llyfr braidd yn hir: doedd dim angen gymaint. Ond falle y peth mwyaf pwysig i fi ydy ayrgylch y llyfr. Dyma be mae Lyn Ebenezer yn dweud, a dwi’n cytuno’r llwyr:
Yn y nofel hon mae yna gynhwysin prin arall. Yn Saesneg fe’i gelwir yn “mood”. Y gair Cymraeg annigonol yw ‘awyrgylch’. Mae’n gynhwysyn anodd iawn i’w ganfod, heb son am ei ddefnyddio. Dyma’r cynhwysyn s’yn cyfranu at lwyddiant y cyfresi Scandinafaidd ar BBC4 fel The Bridge, The Killing, Wallander a Bergen [a tasai Ebenezer wedi sgwennu hwn yn ddiweddar efallai fase wedi ychwanegu Y Gwyll]. Ac mae Alun Jones yn sicr wedi ei ganfod yn LLiwiau’r Eira.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home