Mae'r post yma braidd yn hwyr: dechreuais sgwennu fo dydd Fawrth ag ond heddiw dwi wedi cael cyfle i'w orffen....
Dwi’n mynd i’r ysgolion undydd yn y
Ganolfan yn Llundain, pan dwi’n medru. Cyfle i siarad Gymraeg am
ddiwrnod, a gweithio ar yr iaith - cyfleoedd sydd yn brin yn fama yn Lloegr.
Dros y flynyddoedd dwi wedi cael
sawl tiwtor gwahanol - a bron bob un yn ardderchog, ac yn dod a wahanol elfenau
i’r gwersi. Dwi wastad yn dysgu rywbeth newydd ac yn cael fy ysbrydoli.
Dwi’n hoff o chwarae gyda iaith yn
gyffredinol - a dysgu ieithoedd, er, ers i fi ddod yn ôl at y Gymraeg, dwi ddim
wedi gwneud llawer gyda’r ddwy iaith arall dwi wedi dysgu [ a bron wedi
anghofio]: Ffrangeg ac Eidaleg. Dwi’n hoff o’r ddwy, ond efalla bod
Eidaleg ar y frig: gwlad hyfryd, bwyd hyfryd - ac yn hawdd cael bwyd i
lysieuwyr, hanes ac adeiladau diddorol a hardd, gerddi - be sydd ddim i ’licio’
fel mae’r Sais yn dweud? Ond efallai ryw ddydd bydd gyfle i ddod yn ôl atynt.
Y ffaith ydy, mae o’n cymryd amser i ddysgu iaith, ac er mai ailddysgu
ydwyf, mae ’na ddigon i ddysgu ac i ymarfer yn y Gymraeg. Mae pethau llawr haws yn fy
iaith gyntaf, Saesneg. Ond heb y Gymraeg, a heb ailddysgu’r Gymraeg, swn
i wedi colli gymaint o bethau: ffrindiau dwi wedi cyfarfod wrth ddysgu - a heb
siarad Saesneg gyda nhw; llyfrau [dwi'n ailddarllen Lliwiau’r Eira ar y funund
ac yn mwynhau yn arw a wedi darllen gymaint dros y flynyddoedd], cerddoriaeth,
diwylliant - maent i gyd wedi dod yn sgîl ailddysgu - a defnyddio’r iaith.
Ond dwi’n mwydro. Yn ôl at ddydd
Sadwrn. Cawsom siarad, gwneud ambell i ymarfer Gramadeg, gwaith sgwennu -
a trafod cerdd: un clasurol - Y Llwynog gan R Williams Parry. Dwi’n
cofio’r gerdd o’r ysgol - ond dim yn dda iawn - wnes i fyth ei ddysgu.
Felly r’oedd yn bleser ac yn hwyl i ddarllen a thrafod y gerdd. Fel
mae’n digwydd dwi’n cofio sefyllfa tebyg tra'n cerdded ar hyd yr arfordir yn
Sir Benfro, blynyddoedd a blynyddoedd yn ôl. Tri ohonon ni hefyd, yn dod
dros ryw frig bach a’r llwynog yn cerdded ar yr un llwybr o’r cyfeiriad arall.
Dwi ddim yn siwr os mae’r llwynog neu ni a chafodd y fraw mwyaf.
Beth bynnag, oedodd y llwynog, a wnaethon ni sefyll yn llonydd am funud
hefyd, cyn i’r llwynog droi a diflannu. Ond am funud bach, roedden yn
edrych ar ein gilydd, fel yn y gerdd.
Dwi’n gwrando ar Radio Cymru pan
dwi’n medru - ond rhaid cael o ar y we, wrth gwrs. Ac un o'e rhaglenni dwi’n
gwrando arnynt ydy rhagle Sian Cothi, [Bore Cothi] a dros y misoedd dwi wedi mwynhau
clywed Hanes yr Iaith mewn 5OGair a’r cerddi gan ’Bardd y
Mis’. Siôn Aled ydy bardd y mis am Orffenaf, a fo oedd ein tiwtor dydd Sadwrn
Felly gwrandawais ar y raglen [a
chafodd ei ddarlledu bore Llun] bore ’ma yn cynnwys sgwrs gyda Siôn a cerdd am
Langollen. Hyfryd. A mae Siôn wedi cytuno i roi gerdd ar Twitter
bob dydd. Dwi ddim wedi gweithio allan sut i gael y rheini eto, ond mi
fyddaf. A mae’r profiad wedi fy ysgogi i fynd yn ôl i gerddi sydd gen i
yn eistedd ar y silff ac i chwilio am farddoniaeth newydd. Mi fyddaf yn y
Gŵyl Arall am gyfnod byr [ond dydd Sadwrn] ac yn yr eisteddfod am ychydig o
ddyddiau, felly digon o gyfleoedd i wneud hynny.
A
dyna fo, dwi’n lwcus bod Llundain ddim rhy bell: mae’r tiwtoriaid yn cynnwys
awduron; athrawon; beirdd a mae’r holl brofiad yn cynnwys cwmni da. Be
well?
2 Comments:
Sut roedd yn rhaid i chi ailddysgu yr iaith? Dwi'n ddysgu ieithoedd yn ara deg, i ddeud y gwir, ond ar y cyfan dim yn anghofio mwy ... o leia, mae'n mynd yn ol yn gyflym fel arfer ,,, gobeithio :-)
Diolch am eich sylw. Mi gefais i fy magu yng Nghaernarfon, a felly dysgais Cymraeg: yn yr ysgol, gyda Nain a.y.y.blaen. Doedd fy nhad ddim yn siarad Cymraeg yn y ty, oherwydd oedd mam yn Saesnes. Ar ol byw yn Lloegr am ddeugain mlynedd r'on i wedi anghofio gymaint. Felly swn i'n dweud, ia, mae'n dod yn ol, ti'n iawn, ond ar ol gymaint o amser [ a doedd fy Nghymraeg ddim yn dda yn y lle gyntaf, ]roedd rhaid mynd ati i ailddysgu. Falch iawn fy mod i wedi gwneud!
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home