Ailddysgu

Wednesday 9 August 2017

Yr Eisteddfod: rhan 1?

Newydd dod yn ol o’r eisteddfod - ond medru mynd am ychydig o ddyddiau - ac efallai ei bod yn brofiad wahanol i rywun sydd yn byw yn Lloegr [a wedi byw yma am 45 mlynedd!]  Beth bynnag, dyma rhai o’r pethau da - a dim mor dda - i fi:

Pethau Da
1 Gymaint o ddigwyddiadau yn y Gymraeg.  A bydd rhai yn cael eu dilyn rŵan dwi gartref.  Er engraifft, awdur y dydd [dydd Sul] oedd Mair Wynn Hughes.  Sut oeddwn i ddim wedi clywed amdani hi o’r blaen, dwi ddim yn gwybod - ond cael gwybodaeth gan Bethan Gwanas yn fama.  
A mynd i’r sesiwn yn y babell llên, a hefyd i glywed cyfweliad gyda Bethan Gwanas. 

Felly mi fyddaf yn bendant yn chwilio am rhai o’r llyfrau - a ia, dwi’n gwybod mai ar gyfer plant mae nhw, ond dim ots, mae rhai llyfrau plant yn ardderchog.
llun

Hefyd clywed Gwyneth Glyn yn canu gyda Twm Morris - albwm newydd yn dod allan gan y ddau.  



Pethau a oedd ddim mor dda
1  Gymaint o law ar ddydd Sul - ac yn ofni na fasen yn medru cael bws adref i Gaergybi lle roedden yn aros - felly penerfynnu beido mynd i glwyed Bon Delyn gyda’r nos......

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home