A dyma ddechrau fis Tachwedd! Dwi ddim yn medru cerdded yn bell o gwbl ers syrthio, na arddio.....felly pwyll bia hi, a bod yn amyneddgar. [A dwi ddim yn dda am hynny ond yn trio gwella]! Dwi wedi bod yn darllen dau lyfr newydd Cymraeg, sef Gwales gan Catrif Dafydd a Golwg Newydd ar yr hen Ogledd gan Glen George.
’Roedd yr adolygiad o Gwales a chlywais ar rhaglen Dewi Llwyd yn dda, ond
adolygiad arall a ddarllenais ar ol dechrau darllen y llyfr mwy gymysg. Hyd at hyn, dwi ond wedi cyraedd tudalen 36, a dydy’r llyfr ddim wedi ’gafael’ eto, a’r iaith i fi [iaith anffurddiol Caerdydd? yn anodd]; felly mwy yn y fan [a da hefyd oedd darganfod blog Bethany May!; ewch i edrych].
Mae’r ail lyfr yn wahanol iawn. Llyfr ffeithiol am hanes yr hen ogledd - o’r cyfnod Mesolithig i Oes y Llychlynwyr. Darllenais llyfr Neil Oliver, A History of Ancient Britain, yn ol yn y gaeaf, a mwynhais yn arw, felly roeddwn yn hapus i ddarllen mwy - yn enwedig gyda chysylltiad Cymreig. Mae’n dda gweld llyfr fel ’ma yn y Gymraeg [ac wrth gwrs y rheswm am hynny ydy bod yr ardal yn rhan o’r hen Gymry, unwaith]. Mae’r iaith yn fama yn eitha ffurfiol, gyda geiriau a geirfa enwedig mewn llefydd; felly dipyn o her, ond diddorol hyd at hyn [wedi cyraedd tudalen 52!]
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home