Ailddysgu

Monday, 7 April 2025

Nythod

Mae’r tywydd gwych yn parhau, ac efallai bod hyn yn help i’r adar sydd yn nythu.  Bob Gwanwyn dwi’n trio sylwi ar unrhyw nyth dwi’n gweld ond dwi ddim yn gweld llawer, ac wrth gwrs, cuddio’r nyth ydy’r amcan fel arfer (o safbwynt yr adar!), oni bai eich bod yn aderyn mawr fel barcut.  Does dim modd cuddiad nyth barcut, maen nhw yn fawr ac yn flêr, ac mae’r un lleol yn uchel.  Ond does gan y barcut ddim ysglyfaethwyr ar wahân i fodau dynol.

 


Wn i ddim faint o farcutiaid sydd o gwmpas yr ardal.  Dan ni’n eu gweld nhw yn aml: dros y tŷ, a dros y dref a’r comin.  Mae un pâr yn nythu dros yr afon o’r comin a dyma’r nyth.  Er eu bod nhw o gwmpas dwi ddim wedi llwyddo i gael llun da ohonyn nhw yn hedfan, maen nhw yn eithaf cyflym.

 

Ar ben arall y raddfa, mae’r titw tomos las; aderyn bach sydd yn nythu mewn blychau nythu yn aml.  Ond y nyth dwi’n gweld ydy un ar y comin, yn y goedlan fach.  Mae’r nyth yma mewn twll mewn bedw arian, ac mae’r titw tomos yn brysur yn adeiladu’r nyth ar y funud,  Gobeithio y bydd hi’n llwyddiannus eleni.




0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home