Glaw
O’r diwedd dan ni’n cael dipyn o law. Mae’r tywydd wedi bod yn braf ar y cyfan am ryw fis - ond yn bendant dan ni ddim wedi cael llawer o law, ac mae’r tir yn sych ofnadwy. Felly dwi wedi bod yn treulio amser yn dyfrio’r ffa yn yr ardd, a’r roced...a’r potiau, ac mae’r pwll bach yn sychu i fyny yn gyflym.
Hefyd mae hi’n gyfle i fynd trwy beth mae fy mab yn galw “gwaith papur”: y pethau sydd yn dod yn y post, o’r swyddfa trethi, neu’r banc, new pytiau dwi isio cadw o’r papurau newydd. Fel arfer os ydy’r tywydd yn dda dwi wastad yn blaenoriaethu cael bod allan: cerdded ar y comin a gwylio’r bywyd gwyllt, neu weithio yn. yr ardd, neu dynnu lluniau.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home