Ailddysgu

Friday, 31 October 2025

Llyfrau Ffantasi


Ydych chi’n hoff o lyfrau ffantasi?  Maen nhw dipyn fel "marmite" dwi’n meddwl.  Ond os dach chi’n hoffi dianc i fyd arall; pan fydd pethau yn ddu yn eich bywyd go iawn...i fi does 'na ddim llawer gwell.  Ac os ydych yn hoff o ffantasi...pa rai sydd yn dda?


Wel, dwi newydd droi yn ôl at glasur: “Lord of the Rings”.  Darllenais hwn gyntaf pan oeddwn yn fy arddegau a dwi’n cofio rhuthro yn ôl o’r ysgol a gorwedd ar y gwely yn methu aros i wybod be oedd am ddigwydd nesaf.  Ond yn fy marn i, er mor hoffus ydy’r hobydion mae ’na ddarnau diflas a rhy hir.  Yr holl ryfeloedd di-ri,  er enghraifft.  Dwi ond wedi cyrraedd lle mae’r hobydion wedi cyfarfod Tom Bombadil ar y funud.

 

A be arall dwi wedi ei fwynhau?  Heb os ac oni bai, llyfrau Philip Pullman.  Ac mae un newydd ar gael yn y gyfres ddiweddaraf, The Book of Dust: efallai'r un olaf.  Mae’r ddwy gyfres yma yn fwy na phethau difyrrus.  Mae negeseuon eithaf difrifol yn y ddau am sut dylen ni drin pobl eraill ac ymddwyn; pwysigrwydd cyfeillgarwch...ac yn y blaen.  Wrth gwrs, yn aml, mae llyfrau ffantasi neu hud a lledrith yn cael eu sgwennu ar gyfer plant.  Un gyfres a fwynheais i gyda’n plant ni, pan oeddent yn ifanc, oedd “the Magician’s House quartet"), er. wrth edrych rŵan, gwelaf fod yr adolygiad yma ddim mor dda. https://fantasyliterature.com/reviews/the-steps-up-the-chimney/ 

Dwi ddim yn siwr  fy mod yn cytuno a hefyd, roedd neges gref am gyd-fyw gyda natur a'i pharchu.  Ac roedd hynny’n bwysig i fi.

 

Dwi ddim wedi darllen llyfrau Philip Pullman am sbel ond dwi’n edrych ymlaen at ddarllen y llyfr olaf o’r “Book of Dest”.  Yn ddiweddar, wnes i ail-ddarllen cyfres David Eddings: The Belgariad a mwynhau’r llyfrau yn arw.  Awdur Americanaidd oedd David Eddings, wedi sgwennu llawer o lyfrau ffantasi.  Ond y gyfres hon dwi wedi darllen.  Mae’r un elfennau yno ag sydd yn Lord of the Rings: mae pobl yn mynd ar gwest; yn teithio am yn hir ac yn cael ambell antur ar y ffordd.  Mi faswn i’n dweud bod yna fwy o hiwmor yn llyfrau David Eddings – ac mae’r sgwennu’n dda.

 

A byddaf yn sgwennu am lyfrau ffantasi Cymraeg, hefyd.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home