Ionawr 8: Tywydd, yr ardd a bywyd gwyllt
'
Roedd y tywydd yn wych dros Nadolig a’r flwyddyn newydd os dach chi’n iawn gyda thywydd oer iawn - ond heulog. Treuliais dipyn o amser yn cerdded ar y comin gyda’r awyr yn las iawn: a gydag ychydig o haenau cynnes roedd cerdded yn teimlo’n braf. Dyma sigldi-gwt a oedd yn brysur yn bwydo mewn pwll bach ar y comin a coch dan adain yn y gwrych.
Yn agosach i adre, dan ni’n cael newid y palmant sy'n cael ei ddefnyddio ar y ddaear yn yr ardd ger y tŷ. Gwnaed hwn o frics, ac mae'n ddeniadol, ond briciau hen dŷ yw'r briciau ac ni fwriadwyd erioed at y diben hwn, mewn gwirionedd. Felly mae ganddyn nhw ymylon garw ac maen nhw'n anwastad iawn. Cwymp sy'n aros i ddigwydd. Mae'r cwmni sy'n gwneud y gwaith yn defnyddio palmentydd carreg wedi'u hailgylchu a dan ni’n edrych ymlaen at y canlyniad.
Dyma sut oedd y ddaear:
A dyma sut mae hi ar y funud, wedi i’r briciau hen cael eu codi.
Yn anffodus mae’r tywydd am droi yn arw. Pwy a ŵyr os cawn ni eira yn fama - fel arfer dan ni ddim yn cael llawer. Ond mi fydd yn wlyb iawn: rhy wlyb i godi a gosod slabiau palmant. Felly bydd rhaid aros i’r tywydd gwella.
Yn y cyfamser dwi wedi codi llawer o’r planhigion crocws, a oedd ychydig yn rhy agos at yr ymyl. Maen nhw wedi cael eu symud: rhai i’r tŷ gwydr a rhai i lefydd eraill yn yr ardd. Mae’n dda cael rhai blodau yn y tŷ gwydr ar gyfer y gwenyn cynnar. Ar ddiwrnodau glawog neu oer pan all fod yn anodd cyrraedd y blodau yn yr ardd, gall y gwenyn chwilota am fwyd yn y tŷ gwydr.
A hefyd yn y cyfamser, os ydy’r tywydd yn ofnadwy, cyfle i glirio yn y tŷ, ar bethau nad oes eu hangen arnom fwyach. Ac mae ’na fynydd o’r rheina!

0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home