Llyfrau
Ddoe, o’r diwedd, cawson ni dipyn o law. Dwi ddim yn siŵr os bydd hi’n ddigon i helpu’r planhigion sydd wir eisiau dŵr, ond yn sicr mae hyn yn well na dim. Dwi wedi dechrau arni eto gyda darllen llyfrau Cymraeg. Dyma be ges i mewn pecyn o Balas Print, lle dwi wastad yn prynu llyfrau.
Ond diolch i ni fod yn y llyfrgell leol wythnos diweddaf gyda’r wyrion, ddois adre gydag ychydig o lyfrau Saesneg hefyd. Yr un dwi wedi mwynhau yn arw hyd at hyn ydy llyfr gan Hemingway: A Moveable Feast. Dyma gasgliad o draethodau byr, yn cofnodi ei amser ym Mharis, yn y 20au. Ar y pryd, yr oedd artistiaid o bob math yn byw ym Mharis, yn cynnwys James Joyce a Scott Fitzgerald: dwi ddim wedi darllen amdanyn nhw eto ond dwi’n edrych ymlaen. Mor dda ydy cael llyfr neu ddau (neu chwech) wrth law. .
Dwi yng nghanol darllen I’w Ddiwedd Oer gan Jon Gower ar y funud. Dwi ddim yn siwr os ydy steil Jon Gower a fy chwaeth i yn cyd-fynd. Trïais ddarllen Norte sawl gwaith ar ôl canmoliaeth fy ffrind Gareth, ond doedd o ddim yn tycio, ac yn fwy diweddar darllenais ran o gyfres ditectif. Y Düwch oedd un yn y gyfres yma, ond am dreisiol: doeddwn i ddim yn medru darllen y manylion i gyd: roedd fel sbecian allan ar ffilm arswydus gyda dy ddwylo dros dy lygaid! Felly dim mwy o’r rheini, ond dwi yn gwerthfawrogi ei sgwennu, felly dwi’n darllen “I’w Ddiwedd Oedd” yn araf i fi cael mwynhau’r disgrifiadau. Yn y cyfamser, dwi wedi gorffen Penllachar; llyfr ditectif newydd gan Rhiannon Thomas. Roedd hyn yn brofiad gwbl wahanol lle'r oedd y stori wedi gafael ynddo fi ac roeddwn i jyst isio gwybod beth oedd am ddigwydd nesaf. Dwi ddim yn dda am gadw i un llyfr ar y tro, yn anffodus, felly dwi hefyd yn darllen llyfr gan Robin Wall Kimmerer: “Braiding Sweetgrass”. Efallai byddaf yn sgwennu mwy am hwnnw yn nes ymlaen. Hefyd dwi “wedi darganfod” Carys Davies sydd wedi ennill llyfr y flwyddyn (nofelau Saesneg) 2025 ac yn wir yn haeddu ennill, Gwelir https://www.literaturewales.org/our-projects/wales-book-year/
Stori ydy hon am ddau ddyn yn cyfarfod ar ynys anghysbell rhwng yr Alban a Norwy, yn ystod y ddeunawfed ganrif pan roedd trigolion yn cael ei hel o’r Alban er mwyn rhoi defaid ar y tir. Mae’r llyfr yn hudolus.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home