Ailddysgu

Saturday, 5 April 2025

Y draenogod neu fywyd gwyllt yn yr ardd rhan 2.



Am flynyddoedd, dwi wedi bod yn garddio ar gyfer bywyd gwyllt.  Hynny yw, garddio yn organig, a thrio creu cynefinoedd i fywyd gwyllt. Dwi’n tyfu planhigion sydd yn cynnig bwyd, gwneud yn siŵr bod dŵr ar gael, tyfu blodau sydd yn dda i wenyn, cael lloches i adar a gadael ambell le sydd ddim rhy dwt.  Mae creaduriaid angen lle i guddio.  Hefyd, wrth gwrs, dwi isio i’r ardd edrych yn dda, a dwi isio tyfu bwyd ynddi hi.

Mae draenogod wedi prinhau yn ofnadwy dros y blynyddoedd yn yr wlad hon.  (Mae’r wefan yma



yn llawn o wybodaeth) .  Yn ein hardal ni, mae ‘na ddraenogod o gwmpas a dan ni wedi bod yn gwneud be fedrwn ni i helpu’r creaduriaid bach annwyl yma.  Prynon ni “dŷ” i’r draenogod, (fel gwelwch yn y llun) a dros y blynyddoedd mae draenogod wedi dod i’r ardd.  Dan ni yn prynu bwyd draenogod (“Spike”!) a hefyd yn rhoi dŵr allan.  Ryw bedair blynedd yn ôl, gyda’r wyrion, gwnaethon ni loches i greaduriaid bach  o dan goeden wrth y wal.  Peth arall pwysig ydy bod draenogod yn medru mynd o un ardd i’r llall felly mae’n bwysig bod yna briffordd draenog.  Fel mae’n digwydd mae 'na dwll sydd digon mawr i ddraenogod i fynd trwyddi hi, ar waelod y drws yn y wal.

Eleni maen nhw wir yn ffynnu.  Ryw fis yn ôl wnaethon ni dod ar draws draenog wrth fynd ati i dorri’r gwairYn y blog yma, soniais ein bod wedi gweld dau ddraenog.  Ar ôl ychydig gwelson ni dri draenog.  Ond erbyn dydd Llun diwethaf, roedd CHWECH.  Dwi erioed wedi gweld cymaint o ddraenogod!  Roedd tri yn bwyta’r bwyd y roedden ni wedi ei roi iddyn nhw a thri arall yn cerdded o gwmpas yr ardd lysiau (gyda'i gilydd).  Ers hynny dan ni ddim wedi gweld cymaint ond dan ni wedi prynu pecyn mawr o’r bwyd!

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home