Ailddysgu

Sunday, 23 November 2025

Gaeafu a llwynogod

Wel mae’r tywydd oer wedi dod - a mynd.  Mae’n bwrw rŵan a mi roedd yn bwrw trwy’r dydd ddoe – ond yn ôl y rhagolygon bydd yn gwella heddiw.Ychydig o ddyddiau gaeafol cawson ni, a rhai ohonyn nhw yn haulog iawn, gyda golau gwych.  Ar ddydd Gwener es am dro o gwmpas llyn WIllen, a roedd yn ddiwrnod bendigedig.  Ond, mae ffliw adar o gwmpas, sydd yn drist iawn.


Yn yr ardd, does dim syndod bod y blodau dwi wedi bod yn torri i ddod a nhw




 i mewn i’r tŷ, wedi gorffen, o’r diwedd, gyda’r tywydd rhewllyd.
  Eleni tyfais flodau ar gyfer torri, mewn patsh torri arbennig.  Dwi ddim yn meddwl byddaf yn gwneud yr un peth blwyddyn nesaf: mae rhaid torri’r blodau yn aml, a doeddwn i ddim yn gwneud hynny.  Seren y sioe, heb os, oedd y cosmos.  Ac roeddent yn ffynnu hyd at y tywydd rhewllyd fel gwelwch.  Ond maen nhw wedi marw rŵan.  A felly, os dwi isio rhywbeth o’r ardd yn y tŷ, bydd rhaid troi at bethau sy’n blodeuo yn yr Hydref a’r Gaeaf, fel viburnum neu’r coeden ceirios.




Yn y tŷ gwydr mae’r pupurau yn tyfu o hyd!  A dyma rai defnyddiais ond echdoe yn y gegin. Mae yna aubergines hefyd, ond dwi ddim yn siŵr a ydynt wedi aeddfedu digon.  Defnyddiais un gyda aubergine o’r siop ac mi roedden yn flasus iawn.  A thu allan, mae hi’n dechrau bod yn dymor paru, i’r llwynogod.  Ac echnos ces i fy neffro gan lwynog yn gweiddi’n uchel: rhywbeth fel cath, neu blentyn yn cael ei brifo.  A cyn hynny, gwelais lwynog yn rhedeg i lawr y lôn.  Ond neithiwr, diolch byth, roedd popeth yn dawel.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home