Dyma ni ym mis Tachwedd unwaith eto. Mae’r ci druan yn gwrthod mynd allan unwaith mae hi wedi nosi, oherwydd y tan gwyllt, a hyd yn oed yn y tŷ mae ambell noswaith, fel nos tan gwyllt ei hun, yn achosi llawer o ofn. Felly’r trefn ydy cerdded cyn gymaint ag y gallwn ni, o fewn rheswm). yn ystod y dydd.
Yn bendant dwi wedi son am y goden geirios sydd tu yn yr ardd ffrynt, ac i’w weld yn glir trwy’r ffenestr. Mae hi’n blodeuo yn yf hydref a’r geaf a weithiau drwy gydol y gaeaf.
Yn yr hydref mae’r dail yn lliw gwych, ond erbyn hyn maen nhw i gyd wedi disgyn (a’r lliw yn wych ar y ddaear). Ond beth sydd yn wyrthiol ydy bod y blodau yn dod allan y funud mae’r dail wedi disgyn. Ond un neu ddau flodyn sydd arni hi rŵan ond cyn bo hir bydd wedi’i orchuddio.
A wedyn bydd yr adar bach yn dod ac yn bwyta’r blodau! Ond dim y blodau i gyd, diolch byth. Dyma lun o ditw cynffon hir yn y goeden y llynedd.
Weithiau ar raglenni arddio, mae rhywun yn gofyn: os tasech chi ond yn cael un goeden yn unig yn eich gardd, pa un fasech chi’n ei ddewis? Hon, heb os ac oni bai. Prunus subhirtella Autumnalis yay'r new, swyddogol, Ladin.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home