Blogiau newydd i ddilyn
Ar ol chwarae ar y we dipyn heno; darganfais (ydi hyn yn iawn, tybed?) blogiau Bethan Gwanas a hefyd Bethan Wyn Jones ar tudalen Daily Post Cymraeg. Dw i wedi sefydlu "RSS feed" *be y ddiawl ydi hwnna yng Nghymraeg?) i flog Bethan Gwansa (dw i ddim wedi defnyddio "RSS feeds" 0 blaen - a dwi'n meddwo gwneud yr un fath i flogiau Bethan Wyn Jones. Mae gen i diddordeb mawr yn natur - a blog (newydd) fy hun am y natur o gwmpas fy ardal bach fi - http://newportnature.blogspot.com/ ond mae hon yn Saesneg.
Wel dyn ni wedi cael eira dwfn yma - peth reit anarferol yn yr ardal hon. Mae eira ar y ddaear o hyd - er bod na ddim llawer eira wedi bod am tair diwrnod. A mae'r gwres canolog ddim yn gweithio'n iawn - felly dyn ni'n falch iawn o'r ffwrn sy'n llosgi pren (beth ydi "wood burning stove" tybed?). Mae o'n gyffyrddus iawn eisteddyma yn edrych ar y fflamiau. Dwi'n mynd i'r gwelu rwan i ddarllen mwy o "Yn ol i Lleifior" .
Labels: Eira; natur; blogiau
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home