Ailddysgu

Friday 29 January 2010

Llongddrylliad y "Royal Charter"

Dwi newydd orffen darllen y llyfr "Ofnadwy Nos", hanes (wir) am llongddrylliad y "Royal Charter" yn 1859. Cyn dechrau, ron i ddim yn gwybod bod hwn yn lyfr hanesyddol. Erbyn hyn dwi wedi darllen llawer o lyfrau T Llew - sydd mor dda am greu hanes diddorol sy'n tynnu chi i fewn. (Roedd cyfweliad ar S4C gyda T Llew dipyn o amser yn ol - rhaglen diddorol iawn a werth gwylio os gewch i gyfle - ac oedd o'n amlwg bod T Llew yn ymwybodol iawn o'r pwysicrwydd o greu stori dda). Cyn ddarllen "Ofnadwy Nos" darllenaid sawl lyfr T Llew - llyfrau plant i gyd - ond i gyd yn ardderchog i ddysgwyr (neu ailddysgwyr) Cymraeg - ac i fi, beth bynnag, hefyd yn cynnwys geiriau newydd. Hefyd, er ei fod ddim yn Gog, dwi'n medru dilyn y rhan mwya o'r iaith mae o'n defnyddio 0 dim gormod o dafodiaeth. Ond yn ol i "Ofnadwy Nos". Does gen i ddim diddordeb mawr mewn llongddrylliadau (mae o'n dipyn o lond ceg) a wyddwn i ddim am hanes y llongddrwylliad yma. Ond mae T Llew yn defnyddio ei ddawn i gyd a mae'r hanes mor dddiddorol - a wirioneddol - a trist, wrth sgwrs.

Collwyd tua 450 o fywydau yn y storm, er bu achub ryw 40, hefyd. Roedd lawer o bobol cyfoethus ynysg y teithiwr ar y llong, wedi gwneud ei pres yn Awstralia. Collwyd llawer o'r cyfoeth yma i'r mor ac ar ol y llongdrylliad datblygodd riw fath o frwydr rhwng y rheini a oedd eisiau'r trafferthion fynd i chwilio am cyrff y meirw, a rheini (yn cynnwys rhai o'r awdordudau) a oedd yn rhod mwy bwyslais at y deifio i trio cael gafael ar yr aur.

Llwyddodd Parch y Plwy lle ddigwyddodd y llongddrylliad i ddod a'r cyrff ( y rhai a darganfwyd) i'r eglwys "nes deuai annwyliaid a pherthnasau i'w hawlio". Yna r'oedd yr waith erchyll adnabod pwy oedd wedi marw, a'r mor wedi difrodi'r cyrff gymaint. Ond ydi fy Ngymraeg i ddim digon da i roi flas y llyfr i chi. Felly darllenwch - mae o mor dda.

Un peth olaf. Sut mae'r gramadeg yn gweithio gyda'r teitl hwn - "Ofnadwy nos"? Pam ydyw o ddim yn anghywir? Mater o bwyslaid efallai? (Ond ydi o ddim yn swnio'n iawn i fi!)

2 Comments:

At 5 February 2010 at 12:57 , Blogger neil wyn said...

Wnes i ddim sylwi sut cymaint a gollodd eu bywydau tan ddiweddar, pan welais i raglen S4C am y drychineb. Titanic yr oes Fictoria oedd un ddisgrifiad ohoni, fedra i ddim dychmygu pa mor erchyll oedd y profiad i'r teithwyr a chriw.

O ran teitl y llyfr, mi fasai'n swnio'n 'well' efo 'o' rhwng yr eiriau: Ofnadwy o Nos...falle?

 
At 15 February 2010 at 13:12 , Blogger Ann Jones said...

Diolch am y gwybodaeth. Wyt ti'n gwybod os ydi'r rhaglen ar gael o hyd? (ar Clic efalla?)

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home