Ailddysgu

Friday 29 January 2010

Yr eirlys cyntaf



Arwydd bod gwanwyn ar y ffordd? Mae’n annodd gweld, eto, bod y dyddiau yn ymestyn – ond dwi’n siwr eu bod, yn araf bach. Dwi’n meddwl na ym mis Chwefror gawn ni weld y wahaniaeth. Ond dwi wedi bod yn chwilio, o dro i dro, yn yr ardd, i weld be sy’n tyfu – a ddoe, dyna lle oedd o, wedio cuddio, braidd. A na, di’r llun ddim yn un dda – ond dyna’r eirlysiau cyntaf yn fy ardd i. Ac yn sgil gweld nhw - dwi am blannu hadau letys - sy'n tyfu reit dda hyd yn oed pan mae hi'm oer - ond fallai dylia i esbonio na yn y ty gwydr byddai'n plannu nhw! (Mae na wahanol eiriau Cymraeg am "snowdrops" ond eirlysiau ydyn nhw o gwmpas Caernarfon, beth bynnag).

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home