Ailddysgu

Sunday 24 January 2010

Penwythnos

Dwi wedi cael penwythnos hyfryd: roedd rhaid gwneud dipyn fach o waith, a hefyd dipyn o siopa - ond heddiw dyn ni wedi bod yn cael cinio hefo ffrindiau da - ac yn sgwrsio dros bwyd ardderchog ac wedyn rownd tan anferthol. Roedd o'n teimlo'n glwyd a chyffyrddus. Ddoe cefais wybod bod yr ysgol Galan am fod ar diwedd mis Chwefror. Dwi'n meddwl bod hwn yr un Sadwrn a'r cwrs yn Llundain - felly mae angen penderfynnu pa un i ddewis - bydd mynd i Lundain am ddiwrnod yn llawer rhatach na mynd i Pontypwl - ond hefyd mae siarad am dau ddiwrnod yn llawer gwell nac am un! A dwi'n gwybod bod angen mwy o ymarfer siarad. Byddaf yn mynd i weld Gwilym bron bob wythnos ac yn cael sgwrs Cymraeg - ond aml iawn dwi'n ffeindio fy mod yn methu meddwl o'r gair Cymraeg dwi eisiau defnyddio - er fy mod yn gwybod y gair.

Oeddwn i yn aros yn Nottingham dros nos Fercher a dim yn ol tan hwyr nos Iau - felly collais yr ail raglen o Gwanas i Gbara - a hefyd Rownd a Rownd (dwi'n gwylio Rownd a Rownd yn gyson bob wythnos). Ac am fod y gliniadur dim yn gweithio yn iawn - a'r cyfrifiadur yma heb sain - doedd o ddim yn bosib ail wylio ar Clic, fel dwi'n gwneud fel arfer. Felly mae rhaid penderfynnu os dwi am aros i fynnu i weld Gbara heno - fel arfer dwi'mn mynd i'r gwel;y yn gynnar ar nos Sul hefo gwaith ar y dydd Llun.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home