Cwcw
Dwi wedi clywed y gog dwywaith eleni. Unwaith wythnos diwedd, pan glywais o yn yr ardd bore dydd Mawrth - wel doedd o ddim yn canu yn yr ardd ond tu allan rhywle - sy'n rhyfedd, achos r'wyn byw yn ydre - er ei fod yn dre fach a digon o lefydd gwyrdd o gwmpas. Wedyn es am dro gyda ffrindiau dydd Sadwrn a dyna swn y gog yn canu ger pentre bach Great Brickhill. Mae'r nifer yn gostwng yn gyflym. Cyhoeddwyd llyfr, llynedd "Say goodbye to the cuckoo" - y cliw yn y teitl fel mae nwh'n dweud yn Saesneg - onnd mae o'nn drist iawn dwi'n meddwl. A hyd at hyn, dyn ni ddim yn gwybod pam. Ond yn sicr dwi'n falch ei glywed.
Labels: Gog
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home