Ailddysgu

Saturday 8 May 2010

Ar ol yr etholiad... a darllen

Wel, yn y fan hyn, yn de-dwyrain Lloegr, mae'r map yn las i gyd, ar wahan i Luton a Cambridge. Cymru ac yr Alban sydd wedi rhwystro'r Toriaid cael mwyafrif mawr - a dwi'n falch o hynny.

Dwi newydd gorffen darllen y ddau Dyfi Jyncshyn lyfr. Dwi ddim yn siwr faint dwi wedi mwynhau nhw. Mae syniad y ddau lyfr yn un dda iawn ond erbyn i fi cyrraedd haner ffordd trwy'r ail lyfr - Y dynes yn yr haul, roedd o'n teimlo fel gwaith galed.

Rwan dwi wedi dechrau ar Atyniad. R'oedd Y Llyfrgell yn ardderchog. Hyd at hyn, dwi ddim yn cael gymaint o hwyl hefo Atyniad, ond dwi ddim wedi darllen llawer o'r llyfr eto, felly gawn i weld.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home