Blogio
Byr ag aml. Dyna be ddwedodd Vaughan Roderick ar Pethau neithiwr, pan oedd yn ymateb i gwestiwn am gyngor i flogwyr. Wel, mae’n debyg fy mod i’n methu’r ddau. Ond mae wahannol ddulliau o flogio gyda wahannol bwrpasau. Mi faswn i’n meddwl efallai ei fod o’n bwysig i rai flogwyr (fel Vaughan Roderick?) gwneud siwr eu bod yn postio yn aml er mwyn cael sylw y cyhoedd? Mae rhai eraill, fel Bethan Gwanas, dim yn postio’n aml bob amser– a hefyd weithiau yn creu blogiau hir – ond wastad yn ddiddorol (yn fy marn i).
Mae’r byd blogio Cymraeg yn weddol fach, o hyd. Awgrymodd Vaughan Roderick, ar y rhaglen, mai efallai bod lawer o bobl ddim yn gyffyrddus yn sgrifennu mewn Cymraeg. A roedd o’n son am y rheini sydd yn siarad Cymraeg fel iaith cyntaf.
Ond efallai bod rhywbeth yn y syniad o fyr ag aml. Dwi am trio bostio yn fwy aml – hyd yn oed os ydwi ond eisaiu son am y brwydr dwi’n cael, yn aml, yn trio cadw’r Cymraeg I fynny – a hyd yn oed gwella fy Ngymraeg, tra fy mod yn byw yng nghanol Lloegr…..
2 Comments:
Ti'n hollol iawn, mae gan wahanol flogiau wahanol swyddogaethau, ac mae mewn trafodaeth ar wefan Petha ynglyn a blogio, mae Rhodri'n cytuno â ti ynglyn a'r cyngor 'byr ac aml'.
Dw i'n credu bod potensial blogio ar gyfer dysgu (neu ail ddysgu) iaith heb gael ei sylweddoli eto, ond gobeithio newidith hyn.
Diolch, Rhys. Mae llawer o ddysgwyr yn defnyddio blogio i ymarfer ei Gymraeg. Dwi'n meddwl ei fod o'n helpu. Heb sgwennu neu siarad Cymraeg, ( a does dim llawer o gyfle i siarad) basa fy myd Cymraeg yn cynnwys ond darllen a gwrando sydd ddim yn gorfodi chdi i gyfathrebu yn yr iaith.
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home