Ailddysgu

Tuesday 30 March 2010

Y Rhufeiniaid

Mae pawb yn gwybod rhywbeth am y Rufeiniaid, ond dydyn nhw? Ond wrth wylio'r rhaglen ar S4c dydd Sadwrn, darganfais bod fy wybodaeth braidd yn fregus - ac r'oedd on dda cael yr hanes o'r dechrau. Felly dwi'n gwybod llawer mwy am yr ymysodiad cyntaf a'r blynyddoedd cyntaf. Roeddwn ddim yn teimlo rhy dda dydd Sadwrn - ac ym meddwl fy mod yn mynd i lawr efo ffliw - yn enwedig gan fod fy nghydweithiwr yn y swyddfa wedi bod yn sal. Felly treuliais dydd Sadwrn ar y soffa - a mae rhaid dweud bod dydd Sadwrn ddim yn dydd drwg i fod yn sal - o safbwynt S4c. Roedd rhaglen hefyd ar hoff lefydd Flur Dafydd, a rwan dwi'n ysu darllen mwy o'i llyfrau hi. Dwi wedi cael sbel gwael hefo llyfrau. Darllenaid Lili dan yr eira - ac er fy mod wedi gorffen o, swn i ddim yn deud fy mod i wedi mwynhau o lawer - rhywbeth i wneud hefo'r pwnc, dwi'n meddwl. Wedyn dechreuais darllen Fy Mrawd a Minnau - ond methais ymdopi hefo fo o gwbl. Roeddwn i ddim yn siwr pwy oedd y wahanol cymeriaid - a hefyd yn ffeindio fo'n annodd i ddarllen. Ond ers hynny dwi wedi bod yn darllen Dyfi Jynchsyn - Y Dyn Flin, a cael llawer mwy o hwyl hefo fo.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home