Ailddysgu

Tuesday 2 March 2010

Ysgol Galan Pontypwl

Wel, falla bod yr ymarfer Gramadeg wedi helpu - dwi'n meddwyl fy mod i wedi gwella dipyn beth bynnag. Fel arfer roedd yn benwythnos da - a roedd yn braf cael y gyfle i siarad Gymraeg am fwy na awr. Ond er fy mod i wedi addo i fy hun na faswn yn prynu mwy o lyfrau, prynais tri - ac roeddwn yn falch iawn achos ces i siwrna ofnadwy yn dod yn ol. Roedd y tren yn fod i adael Pontypwl (sydd yn orsedd bach bach - ac yn y tywydd cawson ni ddyd Sul - oer iawn a gwyntog) deg funud i bedwar - ond naeth ddim dod tan charter wedi pedwar. Problem hefo'r arwyddion (? signals) ym Mhontypwl - a felly collais y cysylltiad (? connection) ac y.y.b - a chyrhaeddais adref deg o gloch - yn lle ugain munud wedi saith.

Felly dwi wedi darllen hanner o "Cymer Y Seren" gan Cefin Roberts, sydd yn dda iawn.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home