Ailddysgu

Saturday 1 January 2011

Dros y Dolig


R’ôn i’n falch cael rhai lysiau o’r ardd ar y bwrdd Nadolig - er, fel gwelir yn y lluniau, r’oedd angen darganfod lle r’oedd y panas gyntaf! Ond wedi gwneud hynny, r’oedd yn hawdd palu. Mae’n siwr bod yr eira wedi cadw’r pridd a’r llysiau yn glyd. Ar wahân i ddarllen, a’r pethau arferol Nadoligol, wrth sgwrs, dwi wedi bod yn cerdded dipyn mwy nag arfer a wedi gweld lâs y ddorlan tair gwaith. Y tro cyntaf, r’oedd yr aderyn yn eistedd ar foncyn (willow) felly ges i amser i wylio fo. Ond y tro wedyn, fel arfer, r’oedd yn hedfan yn gyflym ar hyd yr afon - a wedyn hedfan yn ôl. Ond ar ol gymaint o dywydd rhewllyd, mae’n dda gweld nhw o gwbl.

Dwi wedi gorffen darllen Yn Ôl i Gbara gan Bethan Gwanas. R’on i’n ofni methu cael y llyfr cyn Nadolig – r’on i wedi archebu ddau lyfr mewn digon o amser (r’on i’n meddwl), ond, r’on i wedi eu archeb o Gaernarfon, o Palas Prints – (sydd yn dda iawn a dwi eisiau eu gyfnogi nhw), ond, er eu fod nhw wedi postio y llyfrau yn gyflym, dwi’n meddwl wnaethon nhw eistedd yn y pôst rhywle yn y tywedd garw. Ta waeth - r’oeddwn nhw wedi cyrraedd erbyn Nadolig. Fel arfer hefo llyfrau Bethan Gwanas, mwynhais darllen am y taith yn ol i Nigeria. Felly plîs, Bethan, paid a rhoi gorau i’r sgwennu - mae’n amlwg dy fod di’n cael sawl gyfle i wneud pethau ar y teledu y dyddiau hyn, a mae nhw’n dda iawn hefyd - ond, dydi o ddim yn bosib mynd yn ôl i raglen teledu, unwaith mae o wedi diflannu oddiwrth Clic. Mi fydd fy hoff lyfrau i, ar y llaw arall, yn cael ei ail ddarllen - a weithiau dwi’n darllen nhw tair neu pedair gwaith.


0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home